
Gwylwyr y Cambrian - Eich Tywyswyr i Gledrau'r CambrianMae taflenni Gwyliwr Glannau a Gwyliwr Gwlad y Cambrian yn dangos i deithwyr pethau o ddiddordeb tra'n teithio heibio iddynt ar Gledrau'r Cambrian.
Bwriedir iddynt gyfoethogi'r mwynhad o deithio ar rai o linellau a'r golygfeydd mwyaf godidog unrhywle yn y DU. Byddant o ddiddordeb i bobl lleol yn ogystal â ymwelwyr.
Medrwch ei lawrllwytho yma fel PDFs:
Yn ogystal bydd y Gwylwyr ar gael am ddim o orsafoedd rheilffordd lle bo staff, Canolfannau Croeso ac allfannau eraill ar hyd rhwydwaith y Cambrian.

"Rwy'n croesawu'n wresog mentrau fel hyn sydd nid yn unig yn hyrwyddo gwasanaethau cludiant cyhoeddus lleol ond hefyd yr atyniad Cymru Wledig ar y cyfan. Mae ‘Gwyliwr' newydd lein Arfordir y Cambrian yn cyfrannu at wella dealltwriaeth a gwerthfawrogiad o olygfeydd arfordirol a mynyddig gwych ein gwlad.
"Mae'r fenter newydd yn esiampl o sut mae Partneriaeth Rheilffyrdd y Cambrian yn gwireddu prosiectau sydd yn cefnogi'r economi letach mewn ardal ble mae twristiaeth yn ddiwydiant mor bwysig."

Ieuan Wyn Jones AC,
Dirprwy Brif Weinidog Cymru a'r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth

Cysylltwch â ni:
Swyddog Datblygu Rheilffyrdd
Partneriaeth Rheilffyrdd y Cambrian
d/o Trenau Arriva Cymru
Stryd Doll
Machynlleth
Powys SY20 8BL
F. 01654 700120
Ebostiwch â ni
© 2008 Partneriaeth Rheilffyrdd y Cambrian. | Dylunio gwefan gan Cyberium