Newyddion

Cynnwys Newyddion


Cyfleusterau Parcio Beiciau Newydd yn Gorsafoedd Rheilffyrdd y Cambrian 13/11/2007

Aberystwyth station bike standsMae Trenau Arriva Cymru, Partneriaeth Rheilffyrdd y Cambrian, Cyngor Sir Ceredigion a TraCC, Consortiwm Trafnidiaeth Canolbarth Cymru, wedi cydweithio a'i gilydd i ddarparu a gosod standiau beiciau newydd yng ngorsafoedd rheilffordd Aberystwyth, Borth, Cyffordd Dyfi a Chaersws.

Medd cynrychiolydd o Gyngor Sir Ceredigion, "Mae'r flaengaredd i ddarparu cyfleusterau parcio i feiciau ond yn dangos sut mae gweithio mewn partneriaeth yn fuddiol o ran yr amgylchedd a'r bobl hynny sydd am ddefnyddio dulliau mwy cynaladwy i deithio.

"Gobeithiwn adeiladau ar hyn yn y dyfodol fel rhan o'n hymrwymiad i hyrwyddo seiclo, drwy ddarparu isadeilwedd yn ogystal a chynnig cyrisau i oedolion sy'n ddechreuwyr neu am ailgyfarwyddo â seiclo fel modd o deithio."

Ar ran TraCC mynegodd Meleri Jones, "Mae'r cyfleusterau newydd yma yn y gorsafoedd yn gam pwysig ymlaen tuag at drafnidiaeth cynaladwy sy'n cynnig mwy o gyfleuon i'r cyhoedd ar gyfer eu teithiau pob dydd, cymudo a gweithgareddau hamdden. Mae TraCC yn gobeithio fydd modd gweithio mewn partneriaeth yn y dyfodol er mwyn cyflawni anghenion teithio'r cyhoedd yn y rhanbarth."

Yn siarad ar ran Partneriaeth Rheilffyrdd y Cambrian dywedodd Gerwyn Jones, a wnaeth cydlynu'r cynllun, "Mae prosiectau fel hyn yn gwella cyfleuon a gwneud hi'n fwy hwylus i integreiddio dulliau o deithio, yn yr achos yma, rhwng beiciau a threnau - mae'r mesuriadau cymharol bach yma yn medru fod yn ddigon weithiau i ysgogi bobl i ystyried defnyddio eu ceir yn llai ar gyfer cymudo, teithio i'r gwaith a siwrneau arall. Mae'r ddarpariaeth newydd yma yn datblygu ar yr ymateb bositif a dderbyniwyd i gyfleusterau tebyg a osodwyd yng ngorsaf Machynlleth yn ddiweddar."


Am ragor o wybodaeth, cysylltwch a ni drwy ddefnyddio'r ffurflen Adborth neu drwy'r manylion cyswllt ar y chwit.



Cysylltwch â ni:
Swyddog Datblygu Rheilffyrdd
Partneriaeth Rheilffyrdd y Cambrian
d/o Trenau Arriva Cymru
Stryd Doll
Machynlleth
Powys SY20 8BL
F. 01654 700120
Ebostiwch â ni