Gan ddatblygu ar boblogrwydd Cardiau Cledrau'r Cambrian, cyfres o gardiau post yn cynnwys hen waith celf o bosteri'n hyrwyddo'r rheilffyrdd, mae Partneriaeth Rheilffyrdd y Cambrian wedi lansio cyfres o bosteri maint A2 er mwyn codi arian i achosion da lleol.
Yn y man cyntaf bydd posteri yn dangos delweddau o Aberystwyth, Abermaw, Pont Abermaw a'r Amwythig ar gael am gyfraniad o leiaf £5 yr un neu 4 am £15 o'r gorsafoedd rheilffordd yn Machynlleth ac Aberystwyth ac o'r Ganolfan Groeso a leolir yn yr orsaf yn Abermaw.
Bydd yr arian a godir o'r fenter yn cael eu roi tuag at Ambiwlans Awyr Cymru ac Apêl Cloc Machynlleth. Yn ogystal, bydd y posteri, fel yn wreiddiol, yn cael eu defnyddio ar y trenau ac mewn gorsafoedd i hyrwyddo'r lleoliadau y gellir teithio iddynt ar y trên.
Medd Gerwyn Jones ar ran Partneriaeth Rheilffyrdd y Cambrian 'Mae llawer o bethau sy'n ymwneud â'r rheilffordd yn boblogaidd a chasgliadwy iawn a gan bod ond nifer cyfyngedig o'r posteri ar gael mae hyn yn gyfle arbennig i ni weithio gyda'n gilydd i hyrwyddo'r ardal, y rheilffyrdd a chodi arian i achosion da haeddiannol iawn' .
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch a ni drwy ddefnyddio'r ffurflen Adborth neu drwy'r manylion cyswllt ar y chwit.
Cysylltwch â ni:
Swyddog Datblygu Rheilffyrdd
Partneriaeth Rheilffyrdd y Cambrian
d/o Trenau Arriva Cymru
Stryd Doll
Machynlleth
Powys SY20 8BL
F. 01654 700120
Ebostiwch â ni
© 2008 Partneriaeth Rheilffyrdd y Cambrian. | Dylunio gwefan gan Cyberium