Newyddion

Cynnwys Newyddion


Lawnsio Cwis Pencampwr Y Cambrian 29/7/2008

Plant â Staff y Clwb Ar Ôl Ysgol cyn gadael ar ei taith gyda'r Arglwydd Dafydd Ellis-Thomas a Gerwyn Jones o Bartneriaeth Rheilffyrdd y Cambrian.
Plant â Staff y Clwb Ar Ôl Ysgol cyn gadael ar ei taith gyda'r Arglwydd Dafydd Ellis-Thomas a Gerwyn Jones o Bartneriaeth Rheilffyrdd y Cambrian.
Mae Clwb Ar Ôl Ysgol Machynlleth â Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Yr Arglwydd Dafydd Ellis-Thomas AC, wedi helpu Partneriaeth Rheilffyrdd y Cambrian (PRC) i lansio ei cwis newydd 'Pencampwr Y Cambrian'.

Teithiodd plant y Clwb ar linell yr arfordir rhwng Machynlleth ac Abermaw, gyda diolch i Drenau Arriva Cymru, ar ddydd Mawrth y 29ain o Orffennaf.

Y plant yn mwynhau'r cwis ar y daith.
Y plant yn mwynhau'r cwis ar y daith.
Cafodd y plant lawer o hwyl yn ceisio llenwi bylchau i ganfod enwau'r gorsafoedd wrth deithio drwyddynt, pôs Chwilio'r enw a 'Wela I' sy'n berthnasol i'r rheilffordd.

Medd Ema Jones, cydlynydd y Clwb Ar Ôl Ysgol "Rydym wastad yn chwilio am bethau hwyl newydd i wneud â'r plant ar ôl ysgol ag yn ystod y gwyliau. Rydym yn aml yn defnyddio'r trenau i fynd i ymweld â gwahanol bethau megis y bâd achub yn Aberdyfi a'r sinema yn Aberystwyth.

Y plant yn mwynhau'r cwis ar y daith.
Y plant yn mwynhau'r cwis ar y daith.
Mae'n amlwg o'r hwyl mae'r plant wedi cael heddiw bod y cwis newydd yma yn ychwanegu at y mwynhad o deithio ar drên. Carem fynegi ein diolch i Drenau Arriva Cymru a Phartneriaeth Rheilffyrdd Y Cambrian am drefnu hyn ar ein cyfer."

Mae fformat y cwis yn golygu y gall blant deithio rhan neu'r holl siwrne rhwng Aberystwyth, Machynlleth a Phwllheli ac ymgymryd â'r cwis wrth iddynt deithio. Yn ogystal, mae llun bach o drên wedi ei gynnwys i'r plant ei liwio fewn wedi iddynt gyrraedd adref - mae'r cwis cwbledig yn boster deiniadol i'w gadw fel cofeb o'r diwrnod allan.

Medd Gerwyn Jones ar ran y PRC, "Rydym yn gobeithio bydd y cwis newydd yma yn boblogaidd gyda teuluoedd lleol yn ogystal â ymwelwyr wrth gynnig dimensiwn arall i ddiwrnod allan ar y trên. Mae siwrne ar Linell yr Arfordir yn un gogoneddus - gyda'r mwyafrif ohono'n rhedeg drwy Barc Cenedlaethol Eryri gyda'i olygfeydd arfordirol, cefn gwlad a mynyddig amrywiol. Mae'r PRC ers tipyn o amser wedi bod yn gweithio i hyrwyddo'r daith fel atyniad yn ei hun a mae hyn yn fenter arall i wireddu hyn".

Mae cwis y Cambrian ar gael am ddim o Ganolfannau Croeso lleol yn ogytsal â Gorsafoedd Rheilffordd Aberystwyth, Machynlleth a Phwllheli.


Am ragor o wybodaeth, cysylltwch a ni drwy ddefnyddio'r ffurflen Adborth neu drwy'r manylion cyswllt ar y chwit.



Cysylltwch â ni:
Swyddog Datblygu Rheilffyrdd
Partneriaeth Rheilffyrdd y Cambrian
d/o Trenau Arriva Cymru
Stryd Doll
Machynlleth
Powys SY20 8BL
F. 01654 700120
Ebostiwch â ni