
Chwith i de: Gerwyn Jones, Owen Crooks, Harriet Earis, Neil MacLeod - Trenau Ager y Cambrian, Berni Crooks.

Berni a Owen Crooks ar Porthmadog.
Yn ddiweddar bu Partneriaeth Rheilffyrdd y Cambrian yn croesawu ymwelwyr pwysig iawn i'r ardal a wasaneithir gan rwydwaith y Cambrian, sef Mr Owen Crooks, Rheolwr Cyffredinol Corfforaeth Rheilffyrdd Jamaica, a'i wraig Berni.
Ymwelodd Mr Crooks â Chanolbarth Cymru i ddysgu mwy am rôl Partneriaethau Rheilffyrdd Cymunedol sy'n ymrwymo cymunedau lleol mewn materion yn ymwneud â'r rheilffyrdd yn ogystal â'r gwaith marchnata lleol y maent yn ei ymgymeryd.
Ar ran Partneriaeth Rheilffyrdd y Cambrian medd ei Swyddog Datblygu Rheilffyrdd Gerwyn Jones, "Roedd yn brofiad hynod ddiddorol i gael cwrdd â Mr Crooks ac i drafod gydag ef y gwaith yr ydym fel Partneriaeth ynglwm â yn ogystal a'r tebygolrwydd a'r gwahaniaethau sy'n bodoli rhwng y rheilffyrdd yn Jamaica a'n rhai ni.
"Roedd Mr Crooks i weld â diddordeb mawr bod rheilffyrdd Jamaica yn datblygu rheilffordd sydd â'r gymuned yn ei arwain - pwy a wyr, un diwrnod efallai y caf i gyfle i ymweld â Kingston neu Bae Montego i weld sut mae cysyniad Partneriaethau Rheilffyrdd Cymunedol yn cael ei fwrw mlaen yno!"
Ar ei wibdaith dau ddiwrnod yn yr ardal a wasaneithir gan rwydwaith Rheilffyrdd y Cambrian, cafodd Mr a Mrs Crooks amser i helpu lawnsio a theithio ar y cyntaf o wasanaethau Ager y Cambrian, a weithredir gan 'West Coast Railways'; ymweld â Rheilffordd Ucheldir Cymru ym Mhorthmadog cyn teithio yn ôl i'r Amwythig ar wasanaeth Trenau Arriva Cymru o Borthmadog.
Roedd Mrs Crooks yn enwedig yn hoff iawn o Gymru a soniodd y byddai'n hoffi dychwelyd rhyw ddydd i fwynhau mwy o'i thrysorau.
Yn ogystal â'r golygfeydd godidog ar Lein yr Arfordir fe fu y Crooks, yn ogystal â theithwyr eraill yn wir mwynhau clywed cerddoriaeth arbennig telynydd lleol, Harriet Earis, a fu'n perfformio yng ngorsaf Machynlleth cyn i'r trên adael ac yna ar y trên tra'n teithio i fyny'r Arfordir - cafwyd ymateb cynnes iawn i 'Glychau Aberdyfi' a 'Dynion Harlech' gan i Harriet ei chwarae tra'n teithio drwy'r trefi yma!
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch a ni drwy ddefnyddio'r ffurflen Adborth neu drwy'r manylion cyswllt ar y chwit.
Cysylltwch â ni:
Swyddog Datblygu Rheilffyrdd
Partneriaeth Rheilffyrdd y Cambrian
d/o Trenau Arriva Cymru
Stryd Doll
Machynlleth
Powys SY20 8BL
F. 01654 700120
Ebostiwch â ni
© 2008 Partneriaeth Rheilffyrdd y Cambrian. | Dylunio gwefan gan Cyberium