
(O'r chwith i'r dde) Joyce Porter (Bus Users UK), Janet Lewis (Llywodraeth Cynulliad Cymru) Chris Wilson (TraCC), Nigel Owen (Prifysgol Aberystwyth), Jo Horton (PTI Cymru / Traveline), Chrissy Siczowa a Ria Charlemagne (Urdd Myfyrwyr Aberystwyth) Gerwyn Jones (Partneriaeth Rheilffyrdd y Cambrian).
Mae'r amserlen newydd - clicwich yma i weld fersiwn fwy.
Mae Arriva wedi lawnsio scêm arloesol newydd sy'n wirioneddol yn gwella'r cyfleoedd i bobl deithio rhwng Machynlleth, Borth ac Aberystwyth.
Mae'r fenter '2 am 1', a lawnsiwyd fel rhan o Ddiwrnod Ewropeaidd Heb Gar ddydd Llun y 22ain o Fedi yn Ffair y Glas, Prifysgol Aberystwyth, yn galluogi bobl i deithio un ffordd ar y trên a'r ffordd arall ar y bws, neu'r gwrthwyneb, rhwng Machynlleth, Borth ac Aberystwyth.
Mae'r amserlen newydd (de) wedi ei gynhyrchu i ddangos a hyrwyddo y cyfleoedd sydd ar gael a byddant yn cael eu dosbarthu'n eang ar draws yr ardal.
Meddai Gerwyn Jones ar ran Partneriaeth Rheilffyrdd y Cambrian sydd wedi bod ynghlwm â chydlynu'r scêm, "Heddiw mae yna lawer o sôn ynghylch integreiddio trafnidiaeth a chynyddu cyfleoedd i bobl i deithio yn hytrach nag mewn ceir – rydym yn gweld y cynnig newydd yma fel datblygiad pwysig i wneud cludiant cyhoeddus yn haws ac yn fwy deuniadol i bobl."
Medd Llefarydd ar ran Llywodraeth Cynulliad Cymru: "Mae Llywodraeth y Cynulliad wedi gwneud ymrywmiad i annog staff a fydd yn gweithio yn y swyddfeydd newydd, sydd i agor yn ystod haf 2009, i ddefnyddio dulliau mwy cynaladwy o dethio ar gyfer cymudo ac ar fusnes. Bydd y scêm newydd yma yn cefnogi'r uchelgais hwnnw a fydd yn fuddiol i'n staff, y gymdeithas a'r amgylchedd. Y gobaith yw y bydd unrhyw scêm sy'n gwneud teithio ar gludiant cyhoeddus yn haws, rhatach a mwy hygyrch yn annog y defnydd o gludiant cyhoeddus."
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch a ni drwy ddefnyddio'r ffurflen Adborth neu drwy'r manylion cyswllt ar y chwit.
Cysylltwch â ni:
Swyddog Datblygu Rheilffyrdd
Partneriaeth Rheilffyrdd y Cambrian
d/o Trenau Arriva Cymru
Stryd Doll
Machynlleth
Powys SY20 8BL
F. 01654 700120
Ebostiwch â ni
© 2008 Partneriaeth Rheilffyrdd y Cambrian. | Dylunio gwefan gan Cyberium