Yn dilyn ymgyrch hir i leihau uchder camu rhwng y platfform a'r trenau yng ngorsaf rheilffordd Aberdyfi mae Llywodraeth Cynulliad Cymru (LLCC) wedi cadarnhau ei fod yn mynd i ddarparu cyllid i ateb y broblem mewn modd arloesol.
Ni fu ceisiadau blaenorol am gyllid yn llwyddiannus oherwydd ratio buddsoddiad i fudd isel pan yn cymharu maint y buddsoddiad o ran codi'r holl platfform gyda defnydd amcanol o'r orsaf.
Er hyn mae LLCC wedi adnabod dull newydd o ateb y broblem drwy godi darn o'r platfform i gyfuno â drysau'r trenau pan fyddant yn galw yn yr orsaf.
Yn ystod ei ddatganiad ar y mater medd Ieuan Wyn Jones AC, Dirprwy Brif Weinidog Cymru a'r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth, "Ymwelais â'r orsaf yn ystod mis Mai eleni ac roedd y broblem o'r pellter camu o'r platfform i'r trên yn amlwg iawn.
"Bydd y cynllun peilot yma yn lleihau'r pellter camu gydag adeiladwaith arbennig heb yr angen am ail adeiladu'r holl platfform a fydd yn sicrhau bod y trenau sy'n aros yn yr orsaf yma yn hygyrch i bawb."
Mae sawl corff ac unigolyn lleol gan gynnwys Cyngor Cymuned Aberdyfi, Cynhadledd Cyswllt Lein Yr Arfordir a grwpiau Hygyrchedd yn ogystal â Phartneriaeth Rheilffordd y Cambrian (PRC) wedi ymgyrchu dros nifer o flynyddoed i gael ateb i broblemau hygyrchedd yn Aberdyfi.
Mae PRC wedi gweithio gyda'r cyfryngau lleol ers cyhoeddi datganiad i'r wasg ar y mater yn 2006 i godi ymwybyddiaeth o'r broblem ac i annog eraill i ymrywmo yn y broses ymgyrchu.
Ar ran PRC dywedodd Gerwyn Jones, "Mae hyn yn newyddion gwych i bawb sy'n defnyddio'r orsaf, neu yn flaenorol wedi methu a'i ddefnyddio oherwydd yr uchder camu. Bydd ystod eang o ddefnyddwyr yn cael budd o hyn gan gynnwys y methedig, teuluoedd â phramiau yn ogystal â'r golffwyr sy'n defnyddio'r trenau i fynychu'r cwrs golff cyfagos!
"Mae'r £30,000 sydd wedi ei neilltuo gan LLCC i wireddu'r prosiect yma yn esiampl bositif arall o'r buddsoddiad sy'n mynd ymlaen ar rwydwaith y Cambrian."
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch a ni drwy ddefnyddio'r ffurflen Adborth neu drwy'r manylion cyswllt ar y chwit.
Cysylltwch â ni:
Swyddog Datblygu Rheilffyrdd
Partneriaeth Rheilffyrdd y Cambrian
d/o Trenau Arriva Cymru
Stryd Doll
Machynlleth
Powys SY20 8BL
F. 01654 700120
Ebostiwch â ni
© 2008 Partneriaeth Rheilffyrdd y Cambrian. | Dylunio gwefan gan Cyberium