Newyddion

Cynnwys Newyddion


Rheilffyrdd Y Cambrain Mewn Hwyliau Nadoligaidd 22/12/2008

Sioe Gerdd Nadolig Ysgol Tywyn 2008.

Sioe Gerdd Nadolig Ysgol Tywyn 2008.
Sioe Gerdd Nadolig Ysgol Tywyn 2008.
Mae Partneriaeth Rheilffyrdd y Cambrian (PRC) wedi dod mewn i ysbryd y Nadolig drwy ddarparu nawdd i gefnogi tîm pel-droed ieuenctid a chynhyrchiad cerddorol Nadolig ysgol lleol. 

Cyflwynwyd sannau a siorts i dîm dan 13 y Machynlleth Hurricanes sydd yn chwarae yng Nghyngrair Ieuenctid Aberystwyth a'r Cylch a bydd cyfraniad yn cael ei wneud i gynhyrchiad cerddorol Nadolig Ysgol Tywyn lle y perfformiwyd yn yr Ysgol ar ddydd Mawrth y 16 a ddydd Mercher y 17 o Ragfyr.

Yn siarad ar ran PRC medd Gerwyn Jones, "Mae'n wych ein bod yn medru cyfrannu tuag at weithgareddau positif ieuenctid fel rhain.

Mae'r rheilffyrdd wedi ac yn parhau i chwarae rhan bwysig iawn ym mywyd bob dydd yr ardal fel dull cyfathrebu ac yn gyflogwr sylweddol.

Mae ymrwymo â phobl ifanc mewn ffyrdd fel hyn yn atgyfnerthu hyn yn ogystal â hyrwyddo negeseuon megis pwysigrwydd diogelwch wrth yml y cledrau, mewn gorsafoedd ac ar y trenau."

Am ragor o wybodaeth ar Linellau'r Cambrian yn ogystal â chyfleon noddi posibl, cysylltwch a ni drwy ddefnyddio'r ffurflen Adborth neu drwy'r manylion cyswllt ar y chwit.



Cysylltwch â ni:
Swyddog Datblygu Rheilffyrdd
Partneriaeth Rheilffyrdd y Cambrian
d/o Trenau Arriva Cymru
Stryd Doll
Machynlleth
Powys SY20 8BL
F. 01654 700120
Ebostiwch â ni