
Jane Davidson AC â Gerwyn Jones o Bartneriaeth Rheilffyrdd y Cambrian gyda'r poster newydd (chwith).
Yn ystod ymweliad diweddar i Orsaf Rheilffordd Machynlleth fe wnaeth Jane Davidson, Y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai Llywodraeth Cynulliad Cymru lawnsio poster newydd sy'n ychwanegu at gasgliad posteri poblogaidd Cledrau'r Cambrian. Mae'r 4 poster gwreiddiol a lawnsiwyd yn mis Awst 2008 eisioes wedi codi dros £1,200 tuag at Ambiwlans Awyr Cymru ac Apêl Cloc Machynlleth.
Mae'r dyluniad deuniadol newydd yn gyfuniad o elfennau a golygfeydd y welir o'r trên pan yn teithio ar Linell Arfordir Y Cambrian.
Mae'r posteri maint A2 ar gael am gyfraniad o leiaf £5 yr un o'r gorsafoedd rheilffordd yn Machynlleth ac Aberystwyth ac o'r Ganolfan Groeso a leolir yn yr orsaf yn Abermaw.
Medd Ms Davidson am y fenter, "Fe fyddwn yn cymell yn gryf fod pobl yn defnyddio'r rheilfford arbennig yma yn hytrach na'i ceir i weld Arfordir y Cambrian ac i leihau ei ôl troed carbon. Rwy'n gobeithio fydd mentrau fel hyn yn help i lenwi'r trenau, fydd nid yn unig yn lleihau gollyngiadau carbon ond hefyd yn rhoi hwb i'r diwydiant twristiaeth yng Nghymru.
"Rwyf hefyd yn falch fod y fenter yn codi arian ar gyfer achosion da lleol."
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch a ni drwy ddefnyddio'r ffurflen Adborth neu drwy'r manylion cyswllt ar y chwit.
Cysylltwch â ni:
Swyddog Datblygu Rheilffyrdd
Partneriaeth Rheilffyrdd y Cambrian
d/o Trenau Arriva Cymru
Stryd Doll
Machynlleth
Powys SY20 8BL
F. 01654 700120
Ebostiwch â ni
© 2008 Partneriaeth Rheilffyrdd y Cambrian. | Dylunio gwefan gan Cyberium