Newyddion

Cynnwys Newyddion


Cynnig Cestyll y Cambrian yn curo'r 'credit crunch'5/02/2009


Gweler yn dal y cardiau yn ystod lawnsio'r fenter (o'r chwith i'r dde yn sefyll) Neil Bale a Dee Reynolds (Partneriaeth Twristiaeth Canolbarth Cymru) Cyng. Anne Lloyd Jones a Val Hawkins (Twristiaeth Canolbarth Cymru) Clare Moseley (Cadw) (yn penlinio o'r chwith i'r dde) Gerwyn Jones (Partneriaeth Rheilffyrdd Y Cambrian) Mick Bates (Aelod y Cynulliad dros Sir Drefaldwyn).
Gweler yn dal y cardiau yn ystod lawnsio'r fenter (o'r chwith i'r dde yn sefyll) Neil Bale a Dee Reynolds (Partneriaeth Twristiaeth Canolbarth Cymru) Cyng. Anne Lloyd Jones a Val Hawkins (Twristiaeth Canolbarth Cymru) Clare Moseley (Cadw) (yn penlinio o'r chwith i'r dde) Gerwyn Jones (Partneriaeth Rheilffyrdd Y Cambrian) Mick Bates (Aelod y Cynulliad dros Sir Drefaldwyn).
the Cambrian Coast Line postcard
the Cambrian Coast Line postcard (rear)Garden Cledrau'r Cambrian Cadw.


Mae Partneriaeth Rheilffyrdd Y Cambrian yn gysylltiedig â CHADW wedi cydweithio i gynnig mynediad dau am un i'r Cestyll yn Harlech a Chriccieth i'r rhai sydd yn teithio iddynt ar y trên.

Er mwyn hyrwyddo a hwyluso'r cynnig, mae yna ychwanegiad i gasgliad poblogaidd Cardiau Cledrau'r Cambrian wedi eu cyhoeddi sy'n dangos arlunwaith o amser a fu sy'n cynnwys delweddau'r ddau gastell.

Mae'r cardiau yn cael eu dosbarthu'n eang ar hyd yr ardal a byddant ar gael am ddim o'r Cestyll, Canolfannau Croeso lleol a gorsafoedd rheilffordd lleol lle bo staff.

Dylai'r rhai sy'n dymuno manteisio ar y cyfle ad-dalu rhan o'r garden sy'n hysbysu'r cynnig ynghyd â dangos tocyn trên dilys wrth fynd mewn i'r Cestyll.

Gellir cadw'r elfen carden post fel cofrodd dymunol!

Yn siarad ar ran Partneriaeth Rheilffyrdd Y Cambrian dyweddodd Gerwyn Jones, "Mae'r daith ar hyd Llinell Arfordir y Cambrian yn cael ei gydnabod fel un o'r rhai mwyaf hardd a gwrthgyferbyniol unrhywle yn y DU.

Drwy weithio gyda Cadw ar y fenter yma rydym yn medru cysylltu'r rheilffordd gyda dau o brif atyniadau'r ardal ac i annog pobl i deithio iddynt ar y trên - mae cyfuno taith ar y trên gydag ymweliad i un o'r Cestyll yn cynnig diwrnod allan gwych.

Gyda'r hinsawdd economaidd presennol mae pawb yn edrych am ffyrdd i arbed arian ac felly rydym yn hyderus bydd y scêm yma, drwy gynnig cymhelliad, yn boblogaidd i ddenu mwy o fobl i'r ardal a fydd o fudd i'r economi lleol".

Medd Peter Gerring, Rheolwr Marchnata, Cadw, "Mae'r fenter ar y cyd rhwng Cadw a Phartneriaeth Rheilfyrdd Y Cambrian yn cynrychioli cynnig ariannol gwerth chweil i ymwelwyr sy'n galluogi'r ddau sefydliad i weithio gyda'i gilydd yn hyrwyddo'r atyniadau hanesyddol gwych yma a hefyd y daith trên hardd i gynulleidfa ehangach.

"Mae Cestyll Criccieth a Harlech yn sefyll mewn lleoliadau syfyrdanol sydd â golygfeydd tuag at y môr sy'n cynnig golwg anghredadwy i dreftadaeth Gogledd Cymru."

Cafodd y fenter ei lawnsio a'i groesawu gan y rhai a fynychodd Cynhadledd Twristiaeth Canolbarth Cymru a gynhaliwyd yn Llandrindod ar 31 o Ionawr 2009.


Am ragor o wybodaeth, cysylltwch a ni drwy ddefnyddio'r ffurflen Adborth neu drwy'r manylion cyswllt ar y chwit.



Cysylltwch â ni:
Swyddog Datblygu Rheilffyrdd
Partneriaeth Rheilffyrdd y Cambrian
d/o Trenau Arriva Cymru
Stryd Doll
Machynlleth
Powys SY20 8BL
F. 01654 700120
Ebostiwch â ni