
Gerwyn Jones a Mansel Williams.
Aelodau Cynhadledd Cyswllt Rheilffordd Yr Amwythig i Aberystwyth.
Mae cyhoeddiad newydd, Gwyliwr Gwlad y Cambrian (traswslwytho yr mewnol ac allanol [3.5MB]) wedi ei lawnsio gan Bartneriaeth Rheilffyrdd Y Cambrian a fydd yn wir yn bywiogi y daith trên rhwng Yr Amwythig ac Aberystwyth.
A oeddech chi'n gwybod fod Charles Darwin wedi ei eni yn Yr Amwythig; bod cwmni cyntaf 'mail order' y byd wedi ei sefydlu yn Y Drenewydd; bod Machynlleth wedi bod yn brif ddinas canol oesol Cymru a bod Aberystwyth yn gatref i Gamera Obscura mwya'r byd?
Mae'r ffeithiau yma a llu o rai eraill wedi ei cynnwys yn y Gwyliwr Gwlad a fydd o ddiddordeb i bobl lleol ac ymwelwyr wrth iddynt deithio ar y trên.
Lawnsiwyd y Gwyliwr yn ystod cyfarfod diweddar o Gynhadledd Gyswllt Rheilffordd Yr Amwythig i Aberystwyth a gynhaliwyd yn Neuadd Dref Y Trallwng. Gan sylwi ar y lawnsiad medd y Cadeirydd, y Cyng. Mansel Williams, "Mae Brif Linell y Cambrian rhwng yr Amwythig ac Aberystwyth yn gynyddol bwysig fel cyswllt cyfathrebu am ystod eang o resymau teithio gan gynnwys cymudo, gwaith, siopa cymdeithasu a hamddena.
"Mae mentrau fel Gwyliwr Gwlad y Cambrian yn cyfoethogi y profiad o deithio yn ogystal â datblygu'r linell fel atyniad yn ei hunan".
Yn siarad ar ran Partneriaeth Rheilffyrdd y Cambrian medd Gerwyn Jones, "Mae'r cyhoeddiad newydd yma yn ffurfio un elfen o'm cynllun marchnata am eleni sydd â'r bwriad o ysgogi ymwelwyr o Swydd Amwythig a Gorllewin Canolbarth Lloegr i deithio i Ganolbarth Cymru ar y trên er mwyn mwynhau diwrnod allan gwych, arhosaid byr neu wyliau.
"Mae gan y rhanbarth gymaint i'w gynnig ac ynghyd â mentrau sydd eisioes mewn bod fel y taflenni troeon rhwng gorsafoedd rheilfford, Crwydrau'r Cambrian, a mynediad am ostyngiad i nifer o atyniadau i'r rhai sydd wedi tetihio ar y trên byddwn yn edrych i ddatblygu hyn ymhellach yn y flwyddyn drwy menter 'Glan Môr a Gostyngiadau'r Cambrian' a fydd yn hyrwyddo'r ardal a theithio ar y trên yn fwyfwy."
Cwmni lleol Timeline ymgymerodd gyda'r gwaith ymchwil a dylunio ac yr arlunydd o Borth, Gabrielle Adamson sydd wedi creu y darluniau hardd. Mae Gwyliwr Gwlad y Cambrian yn perthyn i gyhoeddiad poblogaidd arall a lawnsiwyd y llynedd sef Gwyliwr Glannau'r Cambrian.
Bydd y Gwyliwr Gwlad ar gael am ddim o orsafoedd rheilffordd lle bo staff, Canolfannau Croeso ac allfannau eraill ar hyd rhwydwaith y Cambrian.
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch a ni drwy ddefnyddio'r ffurflen Adborth neu drwy'r manylion cyswllt ar y chwit.
Cysylltwch â ni:
Swyddog Datblygu Rheilffyrdd
Partneriaeth Rheilffyrdd y Cambrian
d/o Trenau Arriva Cymru
Stryd Doll
Machynlleth
Powys SY20 8BL
F. 01654 700120
Ebostiwch â ni
© 2008 Partneriaeth Rheilffyrdd y Cambrian. | Dylunio gwefan gan Cyberium