

Lluniau: Ymgymerwyr yn y digwyddiad lawnsio yn mwynhau trywydd Rhif 5 yn ogytsal a lluniaeth haeddiannol yn nhafarn Yr Ysgethin yn Nhalybont - un o nifer o fusnesau lleol sy'n debygol o gael budd o'r fenter.
Mae Partneriaeth Rheilffyrdd Y Cambrian wedi lawnsio pedwar trywydd newydd yn ei cyfres llwyddiannus 'Crwydrau'r Cambrian'.
Gan ddatblygu ar boblogrwydd y taflenni gwreiddiol a enillodd wobr genedlaethol Sefydliad Siartiedig Trafnidiaeth a Logisteg, mae'r pedwar trywydd newydd yma, sy'n dilyn tramwy cyhoeddus cydnabyddiedig rhwng gorsafoedd rheilffordd wedi ei cynhyrchu:
Trefnwyd digwyddiad i lawnsio'r pedwar trywydd newydd er mwyn codi ymwybyddiaeth ohonynt ar ddydd Gwener y 1af o Fai 2009.
Cynrychiolwyd ystod eang o fusnesau lleol a chyrff yn y lawnsiad gan gynnwys Grŵp Adfywio Ardudwy, Partneriaeth Twristiaeth Canolbarth Cymru, Twristiaeth Canolbarth Cymru, Cyngor Gwynedd, Sefydliad Y Cerddwyr a Threnau Arriva Cymru ymysg eraill gan gynnwys disgyblion a staff Ysgol Dyffryn Ardudwy a fu'n cerdded llwybr Rhif 5 rhwng Dyffryn Ardudwy a Thalybont.
Medd Bill Moss, Cynghorydd Cymuned Lleol a Chadeirydd Grŵp Adfywio Ardudwy, "Gobeithio bydd y taflenni newydd yma yn ysgogi bobl i ymweld â'r ardal yn unswydd er mwyn ymgymeryd â'r troeon yn ogytsal ag apelio i'r rhai sydd eisoes yn yr ardal fel atyniad ychwanegol ac yn fodd i weld mwy o gefn gwlad na fyddent o bosib fel arall. Mae cynnal y lawnsiad yma hefyd yn codi proffeil menter arall i ddatblygu trywydd hirach: Ffordd Ardudwy."
Mae Gordon a Dot Hayes o'r Wirral wedi bod yn dod i aros yn Gwersyllfa Benar Beach, Talybont ers dros ugain mlynedd, medd Mr Hayes "Rydym yn mwynhau ac yn edrych ymlaen yn fawr i'm ymweliadau â'r rhan yma o Gymru - fel cerddwyr brwd mae'r taflenni newydd yma wir yn atyniad ychwanegol."
Wedi ei gynnwys yn nhaflenni'r Crwydrau mae map llinellol manwl ar gyfer bob trywydd yn ogystal â gwybodaeth arall defnyddiol yn ymwneud â phethau megis y bywyd gwyllt gellir ei weld ar hyd y llwybrau, mannau o ddiddordeb hanesyddol a darpariaeth lluniaeth yn ogystal â sut i chwilio am lety lleol.
Gan groesawu'n wresog y fenter yn ystod y lawnsiad medd Eryl Jones-Williams, Cynghorydd Gwynedd, "Mae'r digwyddiad heddiw yn esiampl pellach o sut mae'r gymuned leol yn datblygu yn fwyfwy ei pherthynas gyda'r rheilffordd.
"Mae gennym grŵp weithgar sydd wedi mabwysiadu gorsafoedd Talybont a Dyffryn Ardudwy sydd yn gweithio gyda Threnau Arriva Cymru i wella'r gorsafoedd a'i ymddangosiad: mae'r gwaith yma ynghlwm â mentrau fel Crwydrau'r Cambrian yn mynd i gael cryn effaith ar hyrwyddo'r ardal yn gyffredinol yn ogystal â'r rheilffordd."
Dywedodd Gerwyn Jones ar ran Partneriaeth Rheilffordd Y Cambrian, "Yr hyn yr ydym wedi ei ddarganfod o adborth ynghylch y pedwar llwybr gwreiddiol yw ei bod yn apelio i bobl lleol yn ogystal ag ymwelwyr i'r ardal.
"Gan ehangu'r gyfres rydym wedi cynnwys troeon o rhwng tair a phedair milltir yn ogytsal â dau mwy heriol rhwng deg a phedwar ar ddeg milltir i apelio i spectrwm ehangach o gerddwyr."
Mae'r teflenni ar gael o Ganolfannau Croeso lleol a Gorsafoedd lle bo Staff ar y rhwydwaith. Mae'r casgliad o wyth, yn ogystal â gwybodaeth arall sy'n berthnasol i Reilffordd Y Cambrian ar gael i'w lawrlwytho yma.
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch a ni drwy ddefnyddio'r ffurflen Adborth neu drwy'r manylion cyswllt ar y chwit.
Cysylltwch â ni:
Swyddog Datblygu Rheilffyrdd
Partneriaeth Rheilffyrdd y Cambrian
d/o Trenau Arriva Cymru
Stryd Doll
Machynlleth
Powys SY20 8BL
F. 01654 700120
Ebostiwch â ni
© 2008 Partneriaeth Rheilffyrdd y Cambrian. | Dylunio gwefan gan Cyberium