Newyddion Cynnwys Newyddion


Lawnsio bargeinion a thraethau Rheilffyrdd y Cambrian9/06/2009


Mark Williams MP, Jamie Smith a Gerwyn Jones. Chwith i'r dde: Mark Williams AS, Jamie Smith a Gerwyn Jones
PDF Saesneg (fersiwn Gymraeg ar gael) o daflen Bargeinion a Thraethau'r Cambrian [PDF 3.1MB]


Lawnsiwyd menter newydd yng Ngorsaf Rheilffordd Aberystwyth ar ddydd Llun yr 8fed o Fehefin i hyrwyddo teithio i rai o atyniadau a thraethau gorau'r ardal ar y trên.

Mae taflen 'Bargeinion a Thraethau'r Cambrian' yn cynnwys 19 o atyniadau a nifer o'r traethau gorau sy'n agos at y rheilffordd lle mae mynediad naill ai am ddim beth bynnag neu am ddisgownt i'r rhai sydd yn teithio iddynt ar y trên.

Yn siarad yn y lawnsiad medd Mark Williams, AS dros Geredigion, "Rwy'n falch iawn i fedru gefnogi Partneriaeth Rheilffyrdd Y Cambrian yn ei menter 'Bargeinion a Thraethau'r Cambrian'.

"Mae'n cyfuno'r cariad at y rheilffyrdd a'r angen i ddefnyddio a hyrwyddo cludiant cyhoeddus a dulliau cynaliadwy o deithio gyda phwysigrwydd o hyrwyddo ein canolfannau twristiaeth ar draws llinellau'r Cambrian.

"Gyda'r haf yn brysur ddyfod, nawr yw'r amser mae ymwelwyr a phreswylwyr lleol fel ei gilydd yn fwy tebygol o neidio ar drên am siwrne ar hyd yr arfordir ac mae unrhyw scêm ddisgownt sy'n cynnig hyd yn oed gwell gwerth am arian yn mynd i'w gael ei groesawu'n wresog dwi'n siwr!"

Roedd y lawnsiad yn cynnwys darpariaeth o ddeunydd hyrwyddo rheilffordd a pherfformiad gan Jamie Smith, un o chwaraewyr acordion ac ysgrifenwyr cerddoriaeth acwstic newydd gorau'r DU, a fu'n diddanu teithwyr ac ymwelwyr eraill â'r Orsaf. Roedd ymddangosiad Jamie yn un elfen o fenter 'Gerddoriaeth a'r daith' rhan o Live Music Now! Cymru a rhaglen estyn allan Gŵyl Gregynog.

Ar ran Partneriaeth Rheilffyrdd Y Cambrian medd Gerwyn Jones, "Gan fy mod yn 'Gardi' fy hun dwi wastad yn falch iawn i ddarganfod bargen - rydym yn gobeithio y fydd yr hyrwyddiad newydd yma yn ysgogi pobl lleol yn ogystal ag ymwelwyr am y ddydd a hirach i gyfuno taith ar y trên gydag ymweliad i un neu fwy o'r atyniadau neu draethau.

"Mae'r daflen yn amlinellu faint o bethau sydd ar gael i'w gwneud - yr unig anhawster efallai fydd i chwilio'r amser i wneud pob peth! Rydym yn ffodus a diolchgar iawn hefyd bod cerddor mor dalentog â Jamie, mewn partneriaeth â Gŵyl Gregynog, wedi medru ymuno â ni i greu awyrgylch grêt ar gyfer lawnsio'r fenter newydd".

Mae taflenni 'Bargeinion a Thraethau'r Cambrian' ar gael o Ganolfannau Croeso lleol, Gorsafoedd lle bo Staff ac allfannau eraill ar y rhwydwaith.

Nodiadau

Am ragor o wybodaeth ar ŵyl Gregynog ymwelwch â: www.gwylgregynogfestival.org neu ffoniwch y Swyddfa Docynnau 01743 281281


Am ragor o wybodaeth, cysylltwch a ni drwy ddefnyddio'r ffurflen Adborth neu drwy'r manylion cyswllt ar y chwit.



Cysylltwch â ni:
Swyddog Datblygu Rheilffyrdd
Partneriaeth Rheilffyrdd y Cambrian
d/o Trenau Arriva Cymru
Stryd Doll
Machynlleth
Powys SY20 8BL
F. 01654 700120
Ebostiwch â ni