Newyddion

Cynnwys Newyddion


A arolwg dichonolrwydd i edrych mewn i'r posibilrwydd o ddarparu gwasanaeth trên bob awr ar prif lein y Cambrian rhwng Aberystwyth a'r Amwythig - 16/08/2006

Mae Llywodraeath Cynulliad Cymru (LlCC), mewn partneriaeth â Network Rail a Threnau Arriva Cymru ar hyn o bryd yn ymgymeryd â arolwg dichonolrwydd i edrych mewn i'r posibilrwydd o ddarparu gwasanaeth trên bob awr ar prif lein y Cambrian rhwng Aberystwyth a'r Amwythig.

Gall y gwaith i wella'r isadeiledd sydd ei angen i wireddu'r uchod gael ei wneud fel rhan o raglen waith Network Rail ar gyfer peilot y Deyrnas Unedig o System Rheolaeth Traffig Rheilffordd Ewropeaidd (SRTRE) (ERTMS - European Rail Traffic Management System) a fydd yn cymryd lle ar leiniau y Cambrian.

Fel rhan o'r broses o arolygu dichonolrwydd y cynllun hwn, mae'n angenrheidiol i asesu opsiynau ynglŷn â amserlenni priodol gan ystyried y canlynol:

  • Rhagolygu'r angen, gan ystyried yn fanwl y tebygolrwydd o dwf a'r angen o fewn talgylch y rheilffordd a'r prif ganolfannau a wasaneithir ganddi.
  • Anghenion a dymuniadau defnyddwyr a defnyddwyr potensial y rheilffordd a hefyd sefydliadau gan gynnwys cyflogwyr, busnesau, twristiaeth a'r sectorau academaidd ynghyd ag eraill.

Yn ychwanegol i'r digwyddiadau ymgynghori sydd eisoes wedi cymryd lle, mae LlCC yn awyddus iawn i ymgynghori'n mhellach gydag ystod mor eang a phosib o randdalwyr gan gynnwys cyrff, sefydliadau a busnesau.

Os ydych yn dymuno cymryd rhan yn y broses ymgynghori yma, yna cysylltwch â Olwen Minney o LlCC, at yr isod, yn yr achos cyntaf:

Olwen Minney
Uned Rheilffyrdd Llywodraeth Cynulliad Cymru
Adran 5 Rheilffyrdd a Ffyrdd Newydd
Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Parc Cathays
Caerdydd CF10 3NQ
e-bost: Olwen.Minney@wales.gsi.gov.uk
Rhif ffôn: 02920 823510

Medd Gerwyn Jones, ar ran Partneriaeth Rheilffyrdd y Cambrian, "Mae gwasanaeth trên bob awr rhwng Aberystwyth a'r Amwythig wedi bod yn uchelgais i nifer yng Nghanolbarth Cymru ers gryn amser - mae hyn yn gyfle i bobl gyfleu ei barn a chefnogaeth ar y mater i Lywodraeth Cynulliad Cymru yn y gobaith o wireddu'r uchelgais yma."


Am ragor o wybodaeth, cysylltwch a ni drwy ddefnyddio'r ffurflen Adborth neu drwy'r manylion cyswllt ar y chwit.



Cysylltwch â ni:
Swyddog Datblygu Rheilffyrdd
Partneriaeth Rheilffyrdd y Cambrian
d/o Trenau Arriva Cymru
Stryd Doll
Machynlleth
Powys SY20 8BL
F. 01654 700120
Ebostiwch â ni