Wrth siarad mewn cynhadledd i lawnsio adroddiad gan Grŵp Astudio i Drafnidiaeth Cynaliadwy a Thwristiaeth yng Nghymru mynegodd Alun Ffred Jones, Y Gweinidog dros Treftadaeth, yn glir bod Llywodraeth y Cynulliad cant y cant y tu ôl i'r ymdrechion i wneud twristiaeth yng Nghymru yn gynaliadwy.
Cymeradwyodd argymhellion y Grŵp Astudio a oedd yn cynnwys cynrychiolwyr o sectorau trafnidiaeth a thwrisitaeth yng Nghymru, gan ddweud ei bod yn galanogol i weld y fath cydweithio.
Amcanion tymor byr a osodwydd allan yn yr adroddiad yw:
Medd y Gweinidog: "Mae Twristiaeth yn hanfodol i economi Cymru, gan ddarparu nifer o swyddi a chyfrannu sawl miliwn o bunnoedd i'r economi. Rydym yn awyddus i sicrhau bod ymwelwyr i Gymru yn cael y cyfle i brofi arfordir a chefn gwlad ac atyniadau cysylltiedig Cymru trwy ddulliau cynaliadwy. Mae lleihau dibyniaeth ar y car yn mynd i leihau sŵn, llygredd awyr a gollyngiadau CO2 sy'n perthyn i dwristiaeth yn ogystal â lleihau tagfeydd ac aflonyddwch i bobl lleol."
"Mae twristiaeth cynaliadwy yn golygu cael cefnogaeth a mewnbwn y cymunedau lleol i ddatblygiad a rheolaeth twristiaeth. Mae'n bwysig bod twristiaeth yn cefnogi yn hytrach na thynnu oddi ar safon bywyd y cymunedau sy'n cynnal twristiaeth. Bydd yr argymhellion sydd wedi ei cynnwys yn yr adroddiad yma yn mynd peth ffordd i sicrhau fod Cymru'n hygyrch i gymaint a phosib o ymwelwyr drwy ddulliau cynaliadwy o deithio".
Cefnogwyd a chymeradwyd ei sylwadau gan Jo Jones, Cyfarwyddwr Twristiaeth a Marchnata, Llywodraeth Cynulliad Cymru, a Gareth Hall Cyfarwyddwr Cyffredinol Adran yr Economi a Thrafnidiaeth.
Nes ymlaen yn y gynhadledd, gwnaeth Swyddogion Partneriaethau Rheilffyrdd Cymunedol Cymru lawnsio ei cyfraniad hwy tuag at yr ymgyrch gynaliadwy - poster A2 llawn lliw, 'Cymru Golygfaol ar Drên a TrawsCambria'. Mae'r poster yn plygu lawr i maint poced cyfleus. Mae un ochr yn dangos y prif linellau trên golygfaol yng Nghymru a siroedd y Gororau. Mae'r ochr arall yn rhoi awgrymiadau o atyniadau ymwelwyr a gweithgareddau sy'n hawdd eu cyrraedd ar y trên neu ar y rwydwaith ymestynnol coets TrawsCambria.
"Rydym yn awyddus i hyrwyddo twristiaeth yng Nghymru ar gludiant cyhoeddus" medd David Edwards, Swyddog Rheilffordd Fforwm Llinell Canol Cymru. "Yn ein digwyddiadau hyrwyddo cyson mewn gorsafoedd rheilffyrdd yn Lloegr mae bobl yn aml yn gofyn 'Ble yw'r lle gorau i fynd yng Nghymru?'. Mae'r poster-map yma yn darparu cyflwyniad i'r wybodaeth sydd angen arnynt, ac yn dweud lle allent gael gafael mewn mwy o wybodaeth".
Dywedodd Gerwyn Jones ar ran Partneriaeth Rheilffyrdd y Cambrian "Yn ogystal â ymgymeryd â gwaith i hyrwyddo ein rheilffyrdd unigol fel atyniadau yn ei hunaun, mae mentrau ar y cyd fel yma yn ychwanegu gwerth drwy godi proffeil y pecyn twristiaeth a thrafnidiaeth ar lefel genedlaethol".
Cysylltwch â ni:
Swyddog Datblygu Rheilffyrdd
Partneriaeth Rheilffyrdd y Cambrian
d/o Trenau Arriva Cymru
Stryd Doll
Machynlleth
Powys SY20 8BL
F. 01654 700120
Ebostiwch â ni
© 2008 Partneriaeth Rheilffyrdd y Cambrian. | Dylunio gwefan gan Cyberium