Traswslwytho y taflen ‘Llinell Arfordir Y Cambrian – Y Prif Atyniad'. [pdf 840kB]. Cynhyrchwyd y celfwaith gwreiddiol a ddangosir ar glawr y daflen gan yr artist Michael Huber.

Yn lawnsio'r daflen newydd yng Nghynhadledd Marchnata Twristiaeth Canolbarth Cymru mae (chwith i'r dde) Gerwyn Jones (Swyddog Datblygu Rheilffordd, Partneriaeth Rheilffyrdd Y Cambrian), Dee Reynolds (Cyfarwyddwr y Strategaeth Rhanbarthol, Partneriaeth Twristiaeth Canolbarth Cymru, Cyng. Anne Lloyd-Jones (Cadeirydd Twristiaeth Canolbarth Cymru), Elin Jones AC a Val Hawkins (Prif Weithredwr, Twristiaeth Canolbarth Cymru).
Mae taflen newydd ‘Lein Arfordir Y Cambrian – Y Prif Atyniad', wedi cael ei lawnsio i hyrwyddo Tocyn Crwydro Arfordir Y Cambrian.
Bwriad y daflen yw i hyrwyddo'r daith ar Linell Arfordir Y Cambrian rhwng Aberystwyth, Machynlleth a Phwllheli fel atyniad yn ei hunan yn ogystal â chodi ymwybyddiaeth o'r nifer o weithgareddau a atyniadau y gellir eu cyrraedd yn hawdd ar y rheilffordd yma.
Lawnsiwyd y daflen gan Elin Jones, Aelod y Cynulliad dros Geredigion a'r Gweinidog am Faterion Gwledig yng Nghynhadledd Farchnata Twristiaeth Canolbarth Cymru a gyhaliwyd yng Nghanolfan Celfyddydau Aberystwyth ar y 5ed o Chwefror 2010.
Yn siarad yn y gynhadledd medd Ms.
Jones, "Mae'r trên yn llawer mwy na ffordd o deithio; mae'r daith trên yn aml yn brofiad dymunol yn ei hun.
"Mae hyn yn wir iawn ar Linell Arfordir Y Cambrian gyda'i golygfeydd atyniadol, a rwy'n falch y bydd y daflen yma yn amlygu'r atyniadau ar y daith."
Roedd yn briodol iawn fod y daflen yn cael ei lawnsio yn y gynhadledd flynyddol eleni gan mai ei thema oedd ‘Marchnata Ein Adnoddau Naturiol' - gyda'r trên yn fynedfa ddelfrydol i fwynhau harddwch naturiol godidog Arfordir Y Cambrian.
Mae siwrne ar linell Arfordir Y Cambrian, sy'n cael ei ystyried yn un o'r rhai mwyaf golygfaol a chyferbyniol unrhywle yn y DU, yn brofiad gwobrwyol beth bynnag fo'r tywydd gydag ymwelwyr i'r ardal a phobl lleol.
Dywedodd Gerwyn Jones ar ran Partneriaeth Rheilffyrdd Y Cambrian a gynhyrchodd y daflen: "Mae'r daflen newydd yma yn dystiolaeth pellach fod diwydiannau Twristiaeth a Thrafnidiaeth yng nghanolbarth Cymru yn gweithio gyda'i gilydd er mwyn lles y ddau.
Rydym wedi bod yn ffodus derbyn cefnogaeth ariannol wrth Partneriaeth Twristiaeth Canobarth Cymru i ddatblygu a cynhyrchu'r daflen ac rydym hefyd yn gweithio gyda Twristiaeth Canolbarth Cymru er mwyn datblygu ffyrdd o gyfranogi â gweithredwyr twristiaeth i godi ymwybyddiaeth o'r fath gynigion."
Mae'r taflenni hefyd yn cynnwys arlunwaith deuniadol gan Michael Huber sydd hefyd i'w gweld ar gardiau post a phosteri a gynhyrchywd gan Bartneriaeth Rheilffyrdd y Cambrian.
Mae Tocynnau Crwydro Arfordir Y Cambrian yn costio £8.50 i oedolion (£5.70 gyda gostyngiad carden rheilffordd), £4.25 i blant neu £16.90 i deulu (2 oedolyn a 2 blentyn).
Maent yn cynnig teithio diddiwedd ar y diwrnod wedi 0900 ar Linell Arfordir Y Cambrian.
Mae Tocyn Crwydro Arfordir Y Cambrian teulu (1 oedolyn a 1 plentyn) gyda'r nos ar gael hefyd sy'n ddilys wedi 1830 am £5.10.
Cysylltwch â ni:
Swyddog Datblygu Rheilffyrdd
Partneriaeth Rheilffyrdd y Cambrian
d/o Trenau Arriva Cymru
Stryd Doll
Machynlleth
Powys SY20 8BL
F. 01654 700120
Ebostiwch â ni
© 2008 Partneriaeth Rheilffyrdd y Cambrian. | Dylunio gwefan gan Cyberium