Yn lawnsio Crwydrau’r Cambrian Rhif.9 a Rhif.10 y mae (chwith i’r dde) Ben Davies (TAC), Cyng. Trevor Roberts (Cyngor Gwynedd), Gerwyn Jones (PRC), Cyng. Anne Lloyd-Jones (Cadeirydd Twristiaeth Canolbarth Cymru a Chyngor Gwynedd), Yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas AC a Mike Bagshaw (TAC).
Llun gan: Glynda O’Brien.
Yn dilyn lawnsiad dau ychwanegiad newydd mae yna Ddeg Disglair o deithiau cerdded yng nghyfres boblogaidd Crwydrau’r Cambrian o lwybrau llinellol rhwng gorsafoedd ar rwydwaith rheilffordd y Cambrian.
Mae Crwydr Rhif.9 rhwng Tonfanau a Thywyn yn cynnig golygfeydd arbennig o Aber Dysynni, Cadair Idris a Chraig Yr Aderyn tra bod Crwydr Rhif 10 rhwng Llanbedr a Harlech yn rhoi golygfeydd gwych o Fae Ceredigion, Pen Llŷn ac Eryri.
Lawnsiwyd y llwybrau yn ystod cyfarfod o Gynhadledd Rheilffordd Arfordir y Cambrian a gynhaliwyd yn Y Ganolfan, Porthmadog ar ddydd Gwener y 16eg o Ebrill. “Beth dwi’n hoffi am Grwydrau’r Cambrian yw fod y mapiau yn hawdd i’w dilyn a byddant yn rhoi hyder i nofisiaid yn ogystal â cherddwyr mwy profiadol i geisio’r llwybrau. Mae’r Crwydrau yn annog pobl lleol ac ymwelwyr i fynd allan a mwynhau’r tirluniau rhyfeddol ac amrywiol yr ardal sydd yn ei dro o fudd i’r economi ehangach” meddai Cadeirydd y Gynhadledd, Y Cyng. Trevor Roberts.
Dywedodd Ben Davies, Rheolwr Cyswllt Rhandalwyr gyda Trenau Arriva Cymru (TAC) “Mae datblygiad prosiectau marchnata fel Crwydrau’r Cambrian yn help i gynyddu nifer y teithwyr ar y trenau drwy’r flwyddyn sydd yn bositif o safwbynt TAC ond maent hefyd yn bwysig i’r economi leol drwy hyrwyddo’r ardal fel cyrchfan twristiaeth gydol y flwyddyn”.
Mae Crwydrau’r Cambrian i gael am ddim i lawrlwytho yma ac o Ganolfannau Croeso a Gorsafoedd Rheilffordd lle bo staff lleol.
Cynhyrchwyd Crwydrau’r Cambrian gan Partneriaeth Rheilffyrdd y Cambrian (PRC) gyda chefnogaeth Partneriaeth Twristiaeth Cymru.
Cysylltwch â ni:
Swyddog Datblygu Rheilffyrdd
Partneriaeth Rheilffyrdd y Cambrian
d/o Trenau Arriva Cymru
Stryd Doll
Machynlleth
Powys SY20 8BL
F. 01654 700120
Ebostiwch â ni
© 2008 Partneriaeth Rheilffyrdd y Cambrian. | Dylunio gwefan gan Cyberium