Newyddion Cynnwys Newyddion


Darluniau Plant Ysgol yn Gloywi Gorsaf Machynlleth 21/07/2010


Gyda'r darlunwaith a gynhyrchywd ganddynt mae'r plant o Ysgol Gynradd Machynlleth ynghyd â'i hathrawon Mrs Oliver a Mrs Glyn. Hefyd yn y llun mae David Crunkhorn, Trenau Arriva Cymru a Gerwyn Jones, Partneriaeth Rheilffyrdd y Cambrian ynghyd â Dave a Ceri Herbert. Mae Dave yn yrrwr trên gyda Trenau Arriva Cymru yn Machynlleth a fu ef a Ceri yn helpu gyda'r trefniadau ar gyfer y prosiect yma.

YGyda'r darlunwaith a gynhyrchywd ganddynt mae'r plant o Ysgol Gynradd Machynlleth ynghyd â'i hathrawon Mrs Oliver a Mrs Glyn. Hefyd yn y llun mae David Crunkhorn, Trenau Arriva Cymru a Gerwyn Jones, Partneriaeth Rheilffyrdd y Cambrian ynghyd â Dave a Ceri Herbert. Mae Dave yn yrrwr trên gyda Trenau Arriva Cymru yn Machynlleth a fu ef a Ceri yn helpu gyda'r trefniadau ar gyfer y prosiect yma.

Mae disgyblion o Haulfan Ysgol Gynradd Machynlleth wedi trawsnewid y neuadd docynnau yn ei gorsaf rheilffordd lleol i galeri gyda'u darluniau yn ymwneud â'r rheilffordd.

Cafodd y murluniau ei cynhyrchu gan y criw ifanc wedi iddynt cael ei ysbrydoli ar daith ar Reilffordd Arfordir y Cambrian rhwng Machynlleth ac Abermaw ac maent yn dangos yr hyn y gellir ei gweld allan o ffenestr y trên ar y siwrne reilffordd olygfaol yma.

Dywedodd Nina, un o'r rhai ifanc a fu'n cymryd rhan "Gwnaethom wir fwynhau'r siwrne ar y trên gan fod gymaint i'w gweld sydd wedi ei adlewyrchu yn yr hyn wnaethom ei greu".

Meddai David Crunkhorn, Rheolwr Gorsafoedd y Cambrian Trenau Arriva Cymru, "Mae hyn yn enghraifft arall o'r hyn yr ydym yn ei wneud i gysylltu a gweithio gyda gwahanol grwpiau yn y gymuned leol i ddatblygu ei teimlad o berchnogaeth a balchder yn y rheilffordd.

"Rydym yn dra ddiolchgar i'r rhai ifanc o Ysgol Gynradd Machynlleth am ddarpau delweddau mor wych a fydd yn croesawu ymwelwyr i'r orsaf".

Y murluniau yw'r diweddaraf o welliannau sydd wedi cymryd lle yng ngorsaf Machynlleth sy'n cynnwys arddangosfa o flodau a lluniau hanesyddol yn ymwneud â'r rheilffordd leol.

Dylsai unrhyw un sydd â diddordeb i ddarparu ac arddangos lluniau priodol o hanes cledrau'r Cambrian gysylltu â Gerwyn Jones yn gerwyn.jones@arrivatw.co.uk neu ar y ffôn 07920 592 363.




Cysylltwch â ni:
Swyddog Datblygu Rheilffyrdd
Partneriaeth Rheilffyrdd y Cambrian
d/o Trenau Arriva Cymru
Stryd Doll
Machynlleth
Powys SY20 8BL
F. 01654 700120
Ebostiwch â ni