Newyddion

Cynnwys Newyddion


Lansio Hyrwyddiad 'Daliwch y TRENAU MAWR i gwrdd â Threnau Bach Arbennig Cymru' - 06/04/2007

Mae Partneriaeth Rheilffyrdd y Cambrian wedi uno gyda rhai o Trenau Bach Arbennig Cymru (TBAC) i gynnig disgownt o 20% ar docynnau dwyffordd safonol ar y rheilffyrdd yma:

  • Rheilffordd Ysgafn Trallwng a Llanfair
  • Rheilffordd ac Amgueddfa Corris
  • Rheilffordd Dyffryn Rheidol
  • Rheilffordd Talyllyn
  • Rheilffordd Fairbourne
  • Rheilffordd Ffestiniog
  • Rheilffordd Ucheldir Cymru Cyf (Porthmadog)

pan ddangosir tocyn dilys ATOC Rheilffyrdd Y Cambrian.

Yn ogystal â rhedeg gwasanaethau trên, mae gan lawer o'r rheilffyrdd a ddangosir yma gyfleusterau ychwanegol ac atyniadau fel Amgueddfeydd, Siopau, Caffes, bariau trwyddedig a mynediad i lwybrau cerdded hyfryd yng nghefn gwlad - sydd oll yn cynnig diwrnod allan gwych.

Mae Rheilffyrdd y Cambrian yn cysylltu'n uniongyrchol Yr Amwythig, Wolverhampton a Birmingham gyda chyrchfannau Arfordir y Cambrain gan gynnwys Aberystwyth, Tywyn, Abermaw a Phorthmadog. Mae Rheilffyrdd y Cambrian yn cynnig taith trawiadol ac amrywiol ar y trên drwy ganolbarth Cymru sy'n cyfynnu golygfeydd cyferbynnol o'r arfordir a chefn gwlad sy'n darparu modd cyfleus i ymweld â'r ardal a'i atyniadau, gan gynnwys y rheilffyrdd cledrau cul, sydd hefyd yn gyfeillgar i'r amgylchedd.

the Great Little Trains of Wales

Medd Ray Reid o Rheilffordd Talyllyn, ar ran Trenau Bach Arbennig Cymru sydd yn ymgymeryd â'r hyrwyddiad, "Yn y gorffennol, roedd y trenau bach yn cludo nwyddau i'r trenau mawr i'w danfon ymlaen i bob cwr o Brydain. Erbyn hyn mae'r trenau mawr yn dod a phobl o bob cwr o Brydain i fwynhau taith ar y trenau bach. Mae TBAC yn falch iawn o ymgymeryd yn yr hyrwyddiad yma".

Dywedodd Gerwyn Jones ar ran Partneriaeth Rheilffyrdd y Cambrian, "Rydym yn ffodus iawn yng nghanolbarth Cymru o'r amrywiaeth eang o rheilffyrdd cledrau cul unigryw a swynol. Mae rhain ers oes Fictoria wedi chwarae rhan bwysig yn natblygiad yr ardal ac y maent heddiw yn eu hunain yn atyniadau arbennig - pa ffordd gwell I'w cyrraedd nag ar ei cefnderwyr mwy ar Rheilffyrdd y Cambrian ac elwa o'r cynnig am ddisgownt o 20% wrth wneud hynny".

I hyrwyddo'r cynnig, mae taflen gyda rhagor o fanylion wedi ei gynyrchu a'i ddosbarthu ar draws ardal canolbarth Cymru, Sir Amwythig a Gorllewin Canolbarth Lloegr.

Rhagor o wybodaeth



Am ragor o wybodaeth, cysylltwch a ni drwy ddefnyddio'r ffurflen Adborth neu drwy'r manylion cyswllt ar y chwit.



Cysylltwch â ni:
Swyddog Datblygu Rheilffyrdd
Partneriaeth Rheilffyrdd y Cambrian
d/o Trenau Arriva Cymru
Stryd Doll
Machynlleth
Powys SY20 8BL
F. 01654 700120
Ebostiwch â ni