Mae amserlenni newydd ar gyfer Rheilffyrd y Cambrian, Aberystwyth a Phwllheli i Fachynlleth ag ymlaen i'r Amwythig a Birmingham New Street wedi ei lansio.
Cynhyrchwyd yr amserlenni gan Bartneriaeth Rheilffyrdd y Cambrian (PRC) a byddant ar gael o Ganolfannau Croeso Twristiaeth, gorsafoedd rheilffyrdd lle bod staff ac allfannau eraill ger neu'n agos i'r cledrau.
Dywed Gerwyn Jones, Swyddog Datblygu Rheilffyrdd ar ran y PRC, "Cydnabyddiwyd bod amserlenni yn medru bod yn gythryblus o anodd i'w deall. Gobeithiwn bydd y grynodeb yma yn helpu ac ysgogi - yn enwedig y rhai hynny nad sydd eisoes yn defnyddio'r trennau ar rhwydwaith y Cambrian - i wneud hynny.
"Buaswn yn croesawu unrhyw sylwadau ar ddefnyddioldeb yr amserlenni a fydd yn gymorth i ddylunio cyfrolau o'r cyhoeddiad yn y dyfodol."
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch a ni drwy ddefnyddio'r ffurflen Adborth neu drwy'r manylion cyswllt ar y chwit.
Cysylltwch â ni:
Swyddog Datblygu Rheilffyrdd
Partneriaeth Rheilffyrdd y Cambrian
d/o Trenau Arriva Cymru
Stryd Doll
Machynlleth
Powys SY20 8BL
F. 01654 700120
Ebostiwch â ni
© 2008 Partneriaeth Rheilffyrdd y Cambrian. | Dylunio gwefan gan Cyberium