Mae Llinell y Cambrian yn cynnig rhai o'r teithiau trên mwyaf syfrdanol o hardd unrhyw le yn y DU.
Mae digonedd o ddewis o leoedd i chi ymweld â hwy ar hyd y daith.
Mae llu o atyniadau i'r teulu megis Canolfan y Dechnoleg Amgen a Labyrinth y Brenin Arthur ym Machynlleth.
Bydd pobl sy'n hoffi anifeiliaid yn mwynhau mynd i'r Animalarium yn y Borth neu i Warchodfa Natur Cors Arthog yn Aberdyfi.
Os oes gennych ddiddordeb mewn hanes mae yna doreth o gestyll i ymweld â hwy - yn Amwythig, Harlech a Chricieth, er enghraifft.
Telerau ac Amodau
Mae Tocynnau Crwydro Diwrnod Arfordir y Cambrian yn ddilys ar ôl 09.00 ddydd Llun hyd ddydd Gwener a thrwy'r dydd ddyddiau Sadwrn a Sul ac ar Wyliau Banc
Gyda Thocyn Crwydro Diwrnod Arfordir y Cambrian i'r Teulu gall fod hyd at ddau oedolyn a dau blentyn yn y grŵp
Mae Tocyn Crwydro Gyda'r Nos Arfordir y Cambrian i'r Teulu yn ddilys ar ôl 18.30 trwy'r wythnos ac mae'n rhaid bod o leiaf un oedolyn ac un plentyn yn y grŵp.
Yn ddilys fel yr uchod. Gall fod hyd at ddau oedolyn a dau blentyn yn y grwp.
Yn ddilys ar 18.30 trwy'r wythnos ac mae'n rhaid bod o leiaf un oedolyn ac un plentyn yn y grwp.
Cysylltwch â ni:
Swyddog Datblygu Rheilffyrdd
Partneriaeth Rheilffyrdd y Cambrian
d/o Trenau Arriva Cymru
Stryd Doll
Machynlleth
Powys SY20 8BL
F. 01654 700120
Ebostiwch â ni
© 2008 Partneriaeth Rheilffyrdd y Cambrian. | Dylunio gwefan gan Cyberium