Rydych yma : Hafan >
Newyddion >
Enillydd ein cystadleuaeth ar y ffordd i Bormeirion
Enillydd ein cystadleuaeth ar y ffordd i Bormeirion
Mae Lorraine Moore yn teithio yr wythnos yma i Bormeirion fel rhan o'i gwobr o'r gystadleuaeth a fu yn y Cambrian News dros y Nadolig. Trefnwyd y gystadleuaeth gan Barneriaeth Rheilffordd y Cambrian mewn cydweithrediad efo Pentre' Portmeirion, y Cambrian News a Trenau Arriva Cymru. Mae Lorraine, sy'n rhedeg caffi'r 'Upper Limit' yn Borth fel arfer yn gweini bwyd a diod i bobl yn ei chaffi, felly braf iawn iddi hi fydd cael rywun i weini arni hithau.

Aethom i gwrdd a Lorraine yn ei gorsaf rheilffordd lleol yn Borth i gyflwyno'r wobr iddi hi. Yn y llun gwelir Lorraine, David Crunkhorn - rheolwr gorsafoedd rhanbarth y Canolbarth, George Romary - un o fabwysiadwyr gorsaf y Borth, a Rhydian Mason o Bartneriaeth Rheilffyrdd y Cambrian yn cyflwyno'u thocynnau teithio i Lorraine.
"Dwi byth fel arfer yn ennill unrhywbeth!" dywedodd Lorraine.
"Roedd darganfod mae fi oedd wedi ennill y wobr yn sioc braf iawn, ac fel perchennog caffi, dwi ddim fel rheol yn cael y cyfle i fynd i unman, felly mi oedd ennill y gystadleuaeth yma'n rheswm da i mi gymryd ychydig o amser bant o'r caffi i gael noson bant.
"Yn ogystal, mae'n siwr fy mod yn y lleiafrif o bobl sy' erioed wedi ymweld a Portmeirion, fell dwi'n edrych ymlaen i fynd yno i weld y lle."
Dymuna Partneriaeth Rheilffyrdd y Cambrian ddiolch i Trenau Arriva Cymru, Pentre' Portmeirion a'r Cambrian News am eu cydweithrediad i redeg y gystadleuaeth yma.