Rydych yma : Hafan > Cynllunio eich ymweliad > Trefi ar hyd y cledrau

Trefi i'w gweld ar gledrau'r Cambrian

Ar gledrau’r Cambrian, rydych yn teithio trwy rai o rannau mwyaf arwyddocaol hanesyddol y DU - ardal o chwedlau a hud a lledrith, cestyll a brenhinoedd, a thywysogion a seneddau.

Mae ymweld â’r ardal ar y trên yn ffordd wych i weld y golygfeydd, cewch weld mwy o'r trên na wnewch chi yn y car, a byddwch yn pasio drwy ardaloedd sy’ heb eu difetha gan gor-ddatblygu a gweld gwir harddwch a mawredd ein cefn gwlad anhygoel. Nid yw’r rhestr yma’n un llawn o ble i fynd a beth i'w weld, ond rydym yn gobeithio y gallwn roi blas i chi o'r hyn y gall eich taith fod ar y lein y Cambrian.

Dydych chi ddim yn unig yn teithio drwy Gymru – ‘rydych chi'n teithio drwy hanes.

Gall y rhai sy'n chwilota am dras Gymreig fynd ar y trên i Lyfrgell Genedlaethol Cymru yn Aberystwyth - llyfrgell gyfeirio a storfa ar gyfer gwybodaeth hynafiaid, ac yna ymweld ag ardaloedd eich tadau ar y trên ac ar fysiau lleol. Mae'r Castell yn y dref, yn dal i edrych yn o debyg i’r ffordd edrychodd ganrifoedd yn ôl ar gael ei danio gan y gynnau mawr trwm, ac wrth gwrs, yn sgil canrifoedd o hindreuliad.

Machynlleth yw cartref senedd-dy Owain Glyndŵr - y Senedd Gymreig a’i cynhaliwyd yn gyntaf ryw 500 mlynedd cyn ein senedd ni heddiw, a gerllaw ceir rhai o’n safleoedd mwya’ arwyddocaol yn hanes Owain - Pennal, ble ysgrifennodd ei lythyr yn apelio am gefnogaeth y Ffrancwyr i'r achos Cymreig, safle brwydr Hyddgen lle ymladdodd byddin Owain yn erbyn byddin Harri IV. Yn Harlech mae’r gaer drawiadol yn dal i sefyll - safle gwarchae mawr a enillodd Owain ac yna’i golli flynyddoedd yn ddiweddarach.

Mae’r Drenewydd yn dref farchnad fywiog sydd ag arwyddocâd hanesyddol ei hun sy'n ymwneud a chyfnod mwy modern. Roedd Robert Owen (1771), sy'n adnabyddus am fod yn un o dadau’r ‘co-operatives’ (cwmnïau cydweithredol) a hawliau gweithwyr, ac yn wir, nifer o ffigyrau pwysig eraill sy’n gysylltiedig â’r lle. David Davies o Landinam - yn ffigwr allweddol o'r Chwyldro Diwydiannol ac wrth gwrs mae Pryce Pryce-Jones (1834), a wnaeth enw fel arloeswr siopa 'drwy'r post'. Roedd y Frenhines Fictoria a Florence Nightingale yn gwsmeriaid iddo.

Porthmadog wedyn – edrychwch am y ‘cob’  - na – nid cobyn Cymreig, ond y wal sy’n cadw’r llanw rhag ail-foddi’r tir. Tref harbwr prysur, gwledig, lle bu’r trenau bach yn cludo’r llechi o'r chwareli i'r harbwr ar gyfer allforio ledled y byd. Mae rhai o'r trenau yn rhedeg o hyd - ond pobl, nid ‘palets’ yw’r llwyth y dyddiau hyn. Gallwch gymryd rheilffordd stêm Ffestiniog o Borthmadog i Flaenau Ffestiniog - tref llechi enwog, ac yn ymuno a lein Dyffryn Conwy sy'n cysylltu â'r rhwydwaith rheilffyrdd cenedlaethol ar hyd arfordir Gogledd Cymru.

Heibio Criccieth a'i chastell, a cyn hir mi gyrhaeddwch y pen draw ym Mhwllheli - ddiwedd lein Arfordir y Cambrian ar Ben-Llŷn, gyda’r golygfeydd syfrdanol o Fae Ceredigion tua’r de.