Mae Pas Achwilio Cymru yn gadael i chi grwydro'n ddiderfyn ar bob gwasanaeth tr ên ar brif linellau Cymru ac ar bron pob gwasanaeth bws.
I bobl sydd eisiau teithio o fewn rhan o Gymru'n unig, mae Pas Archwilio'r De a Phas Archwilio'r Gogledd a'r Canolbarth.
Mae'r ddau'n cynnig pedwar diwrnod o deithio ar drenau ac wyth diwrnod o deithio ar fysiau.
Dim ond y dechrau yw hynny.
Mae pobl â'r tocynnau hyn hefyd yn cael amrywiaeth wych o fuddion eraill
Mae'r rhain yn cynnwys mynediad 'dau am bris un' neu fynediad gostyngol i lawer o brif atyniadau Cymru i dwristiaid.
Gallwch gynllunio'ch taith gan ddefnyddio ein Canllaw Teithio, a roddir am ddim i bob cwsmer sy'n prynu'r Pas Archwilio Cymru.
Mae'n cynnwys mapiau, manylion cryno ar sut i gyrraedd atyniadau a manylion cyswllt yr holl ffynonellau gwybodaeth y bydd arnoch eu hangen i gynllunio'ch taith.
Mae'ch Pas Archwilio Cymru yn cynnig i chi nid yn unig deithiau ar y rhwydwaith rheilffyrdd a bysiau ond hefyd llawer o ostyngiadau ar atyniadau i ymwelwyr ac ar lety:
Mae Pasau Archwilio Cymru yn ddilys ar ôl 09.15 ddydd Llun hyd ddydd Gwener a thrwy'r dydd ddyddiau Sadwrn a Sul ac ar Wyliau Banc.
Mae'n bwysig bob amser i sicrhau nad yw manylion unrhyw gynnig arbennig wedi newid drwy gysylltu gyda Trenau Arriva Cymru, neu yn eich swyddfa docynnau leol.