Mae Pas Fflecsi Crwydro Cymru yn gadael i chi grwydro'n ddiderfyn ar bob gwasanaeth tr ên ar brif linellau Cymru ac ar bron pob gwasanaeth bws.
I bobl sydd eisiau teithio o fewn rhan o Gymru'n unig, mae Pas Fflecsi'r De a Phas Fflecsi'r Gogledd a'r Canolbarth.
Mae'r ddau'n cynnig pedwar diwrnod o deithio ar drenau ac wyth diwrnod o deithio ar fysiau.
Dim ond y dechrau yw hynny.
Mae pobl â'r tocynnau hyn hefyd yn cael amrywiaeth wych o fuddion eraill
Mae'r rhain yn cynnwys mynediad 'dau am bris un' neu fynediad gostyngol i lawer o brif atyniadau Cymru i dwristiaid.
Gallwch gynllunio'ch taith gan ddefnyddio ein Canllaw Teithio, a roddir am ddim i bob cwsmer sy'n prynu'r Pas Fflecsi.
Mae'n cynnwys mapiau, manylion cryno ar sut i gyrraedd atyniadau a manylion cyswllt yr holl ffynonellau gwybodaeth y bydd arnoch eu hangen i gynllunio'ch taith.
Mae'ch Pas Fflecsi yn cynnig i chi nid yn unig deithiau ar y rhwydwaith rheilffyrdd a bysiau ond hefyd llawer o ostyngiadau ar atyniadau i ymwelwyr ac ar lety:
Mae Pasau Fflecsi yn ddilys ar ôl 09.15 ddydd Llun hyd ddydd Gwener a thrwy'r dydd ddyddiau Sadwrn a Sul ac ar Wyliau Banc.
Gwellwch gael gwybod mwy trwy glicio yma i fynd i'r wefan Pas Fflecsi.
Cysylltwch â ni:
Swyddog Datblygu Rheilffyrdd
Partneriaeth Rheilffyrdd y Cambrian
d/o Trenau Arriva Cymru
Stryd Doll
Machynlleth
Powys SY20 8BL
F. 01654 700120
Ebostiwch â ni
© 2008 Partneriaeth Rheilffyrdd y Cambrian. | Dylunio gwefan gan Cyberium