Gall defnyddio'r trên ar gyfer teithio cysylltiedig â gwaith - i ac o gyfarfodydd, cynadleddau a digwyddiadau arall roi mwy o amser i chi ddarllen papurau, ysgrifennu adroddiadau neu wneud galwadau ffôn - gan ddefnyddio eich amser gwerthfawr yn fwy effeithiol ac arbed arian i'ch sefydliad!
Mae amrediad eang o docynnau disgownt a chardiau ar gael yn cynnwys Cerdyn Rheilffordd Cambrian,Tocynnau Tymor a Thocyn Crwydro Arfordir y Cambrian.
Galw yn eich swyddfa docynnau leol neu holi'r tocynwyr ar y trên am fanylion pellach.
Os ydych yn teithio ar gyfer gwaith neu am hwyl - 'does dim ffordd well o deithio nag ar y trên, felly ... ewch ymlaen, ewch ar y trac cywir... Rheilffyrdd y Cambrian.
Cysylltwch â ni:
Swyddog Datblygu Rheilffyrdd
Partneriaeth Rheilffyrdd y Cambrian
d/o Trenau Arriva Cymru
Stryd Doll
Machynlleth
Powys SY20 8BL
F. 01654 700120
Ebostiwch â ni
© 2008 Partneriaeth Rheilffyrdd y Cambrian. | Dylunio gwefan gan Cyberium