Mae Cerdyn Rheilffordd Cambria yn costio £5 yn unig ac yn cynnig gostyngiad o draean o leiaf yng nghost y rhan fwyaf o docynnau rheilffordd Dosbarth Safonol arferol.
Mae gan ddeiliaid Cardiau Rheilffordd Llinellau Cambria yr hawl i brynu'r rhan fwyaf o docynnau Dosbarth Safonal Hamdden ar gyfer teithiau Pwllheli-Aberystwyth-Machynlleth-Y Drenewydd-Amwythig (gan gynnwys yn ol ac ymlaen i orsafoedd rhwng y mannau hynny).
Mae Cardiau Rheilffordd LLinellau Cambria ar werth yn y gorsafoedd lle mae staff yn Aberystwyth (oriau agor Llun-Gwe 0620 i 1725, Sad 0620 i 1520) a Machynlleth (oriau agor Llun-Sad 0745-1600, Sul 1030 i 1330).
Hefyd, gellir derbyn ceisiadau drwy'r post trwy anfon y Ffurflen Gais, dau lun maint pasbort, amlen â stamp a'ch cyfeiriad arni, copi llun o brawf cyfeiriad a siec yn daladwy i Trenau Arriva Cymru mewn amlen wedi'i farcio Cambrian Railcard Application, at:
Am ragor o wybodaeth, ffurflen gais, termau ac amodau gweler taflen Cerdyn Rheilffordd y Cambrian.
Cysylltwch â ni:
Swyddog Datblygu Rheilffyrdd
Partneriaeth Rheilffyrdd y Cambrian
d/o Trenau Arriva Cymru
Stryd Doll
Machynlleth
Powys SY20 8BL
F. 01654 700120
Ebostiwch â ni
© 2008 Partneriaeth Rheilffyrdd y Cambrian. | Dylunio gwefan gan Cyberium