Tocynnau Ar Gael Nawr Ar Gyfer Profiad Hudolus yn Rheilffordd Cwm Rheidol
Mae'r gyfrinach allan! Y Nadolig hwn, bydd Polar Productions ar y cyd â Rail Events Inc. yn dod â sioe fyw hudol i Reilffordd Cwm Rheidol. Dyma’r un tîm a ddaeth â phrofiad enwog a gwobrwyedig y Swanage Polar Express i chi llynedd.
Mae’r profiad theatr, gwbl ymdrochol hwn yn ail-greu’r ffilm Nadolig enwog wrth iddi ddathlu ei phen-blwydd yn 20 oed, gan ddod i chi o feddwl disglair y Cyfarwyddwr Creadigol Gareth Walker. Bydd y Polar Express yn dod â'r cymeriadau yn fyw wrth iddo ddal stori lawen yr ŵyl, yn ogystal â rhoi cyfle i deuluoedd deithio ar drên stêm ar Reilffordd Cwm Rheidol yng nghalon Cymru.
Yn boblogaidd gan bobl o bob oedran, gallwch ddisgwyl hwyl twymgalon i’r holl deulu a digwyddiad gwirioneddol arbennig sydd ar fin dod yn un o brofiadau Nadolig gorau Cymru eleni!
Bydd canu a dawnsio gan eich hoff gymeriadau, golygfeydd eiconig yn syth o’r ffilm ac ymweliad arbennig gan Siôn Corn ei hun. Tra byddwch yn mwynhau siocled poeth blasus a bisgedyn, drwy garedigrwydd ein cogyddion sy’n dawnsio, bydd hud y Nadolig a rhyfeddod y tymor yn eich rhoi yn
syth i mewn i ysbryd yr ŵyl!
Dywedodd Llyr ap Iolo, Rheolwr Gyfarwyddwr Rheilffordd Cwm Rheidol: ‘Rydym yn gyffrous iawn i fod yn cynnal Profiad Polar Express cyntaf Cymru ar ein rheilffordd yn Aberystwyth, ac rydym yn gweithio’n agos gyda’r cwmni cynhyrchu i greu profiad bythgofiadwy i bawb.’
Ychwanegodd Marie Gallop, Rheolwr Gyfarwyddwr Polar Productions: ‘Mae’n fraint i’n tîm ddod â phrofiad y Polar Express i Gymru ac i reilffordd hanesyddol Cwm Rheidol. Rydym yn gyffrous iawn i ddod â hud y Polar Express i bawb y Nadolig hwn.’
Peidiwch â cholli allan ar yr antur hudolus. Mae tocynnau ar werth NAWR.
Mae trenau'n gadael o ddydd Sadwrn 30 Tachwedd ac yn rhedeg tan Noswyl y Nadolig.
Felly, y cyfan sydd ar ôl i’w ddweud yw... ’Wel, ti’n dod?’
Comments