


​Rheilffyrdd y Cambrian
​Mae Rheilffyrdd y Cambrian yn ymestyn 120 milltir o hyd trwy ardaloedd o harddwch naturiol eithriadol, ac yn un o’r teithiau mwyaf golygfaol ym Mhrydain. O dref Amwythig yn Sir Amwythig, mae Prif Linell y Cambrian yn croesi’r ffin i Gymru, trwy diroedd garw mynyddig, trefi marchnad tlws, safleoedd Treftadaeth y Byd a chestyll, ar draws y wlad tuag at harddwch Arfordir Gorllewin Cymru. Yma mae’n ymuno â Llinell Arfordir y Cambrian lle gallwch fwynhau golygfeydd godidog, teithiau cerdded arfordirol a lleoedd difyr i ymweld â nhw ar hyd llwybr arfordir Cymru.


​Partneriaeth Rheilffyrdd y Cambrian
Mae’r wefan hon yn cynrychioli Partneriaeth Rheilffyrdd y Cambrian. Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Powys (PAVO) sy’n ein lletya a’n prif gyllidwr yw Trafnidiaeth Cymru.
​
Ein nod fel Partneriaeth Rheilffyrdd Cymunedol ar gyfer Rheilffyrdd y Cambrian yw cysylltu cymunedau lleol â’u rheilffordd gan ddod â budd cymdeithasol, cynyddu’r defnydd o’r rheilffyrdd, hybu cynhwysiant cymdeithasol a dulliau teithio cynaliadwy.