top of page
Cambrian Line New Development Officer Press Release_edited.jpg

YNGLŶN  PHARTNERIAETH RHEILFFYRDD Y CAMBRIAN

Incredible Edible Porthmadog 6.jpg

Sefydlwyd Partneriaeth Rheilffyrdd y Cambrian dros 20 mlynedd yn ôl.

 

Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Powys (PAVO) sy’n cynnal y bartneriaeth ac mae’n cael ei hariannu gan Trafnidiaeth Cymru.

 

Mae grŵp llywio Partneriaeth Rheilffyrdd y Cambrian yn goruchwylio gweithgareddau a chynllun busnes y bartneriaeth. Mae'r grŵp llywio yn cynnwys amrywiaeth eang o unigolion a sefydliadau sy’n aelodau gan gynnwys cyrff y llywodraeth, mudiadau gwirfoddol, asiantaethau twristiaeth a threftadaeth, cwmnïau rheilffyrdd a gweithredwyr trafnidiaeth.

 

Mae Partneriaeth Rheilffyrdd y Cambrian yn Bartneriaeth Rheilffordd Gymunedol achrededig. Mae'n gydnabyddiaeth ffurfiol gan yr Adran Drafnidiaeth (DfT) a Llywodraeth Cymru bod Partneriaeth Rheilffordd Gymunedol yn gweithredu i safon uchel ac yn meddu ar amcanion a gweithgareddau y mae’r Llywodraeth yn eu cefnogi. Mae’r system achredu yn cael ei gweinyddu gan y Rhwydwaith Rheilffyrdd Cymunedol ac mae’n gymwys i’r Partneriaethau Rheilffyrdd Cymunedol sy’n gweithredu yng Nghymru a Lloegr.

RHWYDWAITH RHEILFFYRDD CYMUNEDOL

Railway 200 Launch.JPG

Mudiad llawr gwlad ym Mhrydain yw rheilffyrdd cymunedol ac mae’n cynnwys Partneriaethau Rheilffyrdd Cymunedol a grwpiau sy’n mabwysiadu gorsafoedd.

 

Gan weithio gyda phartneriaid lleol, rhanbarthol, a chenedlaethol mae Partneriaethau Rheilffyrdd Cymunedol yn ymgysylltu â chymunedau ac yn hyrwyddo cynhwysiant cymdeithasol, llesiant cymunedol, datblygiad economaidd, a theithio cynaliadwy.

 

Maent hefyd yn cydweithio â gweithredwyr trenau i wella ac adfywio gorsafoedd.

​

​Mae’r Rhwydwaith Rheilffyrdd Cymunedol yn cynnig cymorth a chyngor i’r mudiad rheilffyrdd cymunedol trwy eu haelodau. Maent yn rhannu arfer da ac yn cysylltu partneriaethau rheilffyrdd cymunedol a grwpiau, tra’n gweithio gyda’r llywodraeth, y diwydiant rheilffyrdd, a’r sector gwirfoddol a chymunedol ehangach i hyrwyddo rheilffyrdd cymunedol.

EIN PROSIECTAU

Ein gweledigaeth ar gyfer rheilffyrdd cymunedol yw bod cymunedau lleol yn cysylltu’n llawn â’u rheilffordd. Rydym yn rhoi llais i’r gymuned, gan helpu i hybu teithio cynaliadwy, iach a hygyrch. Rydym yn dod â chymunedau at ei gilydd, gan gefnogi amrywiaeth a chynhwysiant ac rydym yn cefnogi datblygiad economaidd a chymdeithasol, gan gysylltu cymunedau â lleoedd a chyfleoedd. Rydym yn gweithio mewn partneriaeth â sawl mudiad arall gan ddod â’u harbenigedd ynghyd i gyflawni hyn.

​

Mae ein cynllun gweithgareddau yn adlewyrchu ein gweledigaeth ac yn hybu saith nod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 a phedwar piler strategaeth Rheilffyrdd Cymunedol yr Adran Drafnidiaeth (DfT).​

Os hoffech gymryd rhan neu os hoffech wybod mwy am ein gweithgareddau rheilffyrdd cymunedol, cysylltwch â hello@thecambrianline.co.uk​

Transport for wales logo
cambrian-stacked-landscape_edited.png
PAVOlogo.png
CRP Accreditation Logo (no dates).jpg

HAWLFRAINT 2025 PARTNERIAETH RHEILFFORDD CAMBRIAN - CEDWIR POB HAWL.. |  PREIFATRWYDD

  • Facebook
  • Instagram
  • Linkedin
bottom of page