top of page
  • Writer's picturePartneriaeth Rheilffyrdd y Cambrian

Lansio rhaglen Addysgol Diogelwch ar y Rheilffyrdd yng Nghymru

Updated: 3 days ago

Datganiad i’r wasg – Trafnidiaeth Cymru


Delwedd (o’r chwith i’r dde): Allan Spence (Spence Safety), Rachel Heath (Network Rail), Lewis Brencher (TfW), Ken Skates MS, Liz Ballantyne, Adele Slinn (Prifathro Ysgol Bryn Alyn).

Roedd Ken Skates, Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru, wedi lansio rhaglen addysgol diogelwch ar y rheilffyrdd yng Nghymru heddiw. 


Cafodd Rail Safe Friendly ei chreu gan Learn Live ac mae’n addysgu pobl am beryglon tresmasu ar reilffyrdd Prydain, er mwyn codi ymwybyddiaeth, achub bywydau ac atal anafiadau. 


Mae Trafnidiaeth Cymru, Network Rail a Learn Live wedi ffurfio partneriaeth i lansio’r rhaglen yn Ysgol Bryn Alyn yn Wrecsam. 


Mae’r rhaglen yn rhoi cyfle i ysgolion ac i’r diwydiant rheilffyrdd weithio gyda’i gilydd tuag at nod cyffredin i addysgu plant a phobl ifanc am y llu o beryglon sy’n bodoli ar y rheilffordd. 


Mae addysg diogelwch ar y rheilffyrdd yn cael ei darparu drwy ddarllediadau byw neu ar-alw gan ddefnyddio’r sianel Learn Live a bydd yn cael ei defnyddio’n ddigidol mewn ystafelloedd dosbarth neu neuaddau gwasanaeth. 


Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru, Ken Skates: "Mae pwysigrwydd cydweithio i addysgu pobl ifanc am ddiogelwch ar y rheilffyrdd yn glir. Mae'n bwysig cofio bod y rheilffordd yn ddiogel i'r rhai sy'n ei defnyddio'n gywir ac mae negeseuon diogelwch yn achub bywydau. Rwy'n falch o fod yma i nodi lansiad ymgyrch Addysgol Diogelwch ar y Rheilffyrdd yma yng Nghymru. 


"Mae'n wych bod yma yn Ysgol Bryn Alyn a gallu trafod y mater pwysig yma gyda'r disgyblion." 


Dywedodd Melanie Lawton, Arweinydd Strategol Rheilffyrdd Cymunedol, Trafnidiaeth Cymru: “Rydyn ni’n falch o weithio mewn partneriaeth â Learn Live i ddod â’r rhaglen hon i ysgolion yng Nghymru. Mae tresmasu ar y rheilffordd yn dal yn risg uchel ac mae’r risg hyd yn oed yn fwy ar ôl cyflwyno Cyfarpar Llinellau Uwchben (OLE) a rhagor o wasanaethau ar y rhwydwaith.” 


Dywedodd Stuart Heaton, Rheolwr Gyfarwyddwr Rail Safe Friendly a Learn Live: “Rydyn ni’n falch iawn o fod yn gweithio gyda Trafnidiaeth Cymru a Network Rail Cymru ar y rhaglen Rail Safe Friendly. Drwy eu cefnogaeth, byddwn yn gallu cyrraedd hyd yn oed rhagor o blant gyda gwybodaeth hanfodol am ddiogelwch ar y rheilffyrdd, gyda’r nod o achub bywydau ac atal anafiadau ar rwydwaith rheilffyrdd y wlad ac mewn iardiau, depos a seidins. 


“Mae’n hollbwysig bod plant yn cael gwybodaeth hanfodol, pan fyddant yn ifanc, i’w cadw’n ddiogel ar y rheilffyrdd. Mae’r rhaglen Rail Safe Friendly yn ceisio addysgu plant a phobl ifanc am y llu o beryglon sy’n bodoli ar y rheilffordd.” 


Am Rail Safe Friendly


Mae Learn Live yn rhedeg sianeli newyddion ar-lein arloesol, rhyngweithiol wedi’u cymedroli sy’n dod â byd o gyfleoedd a phrofiadau’n uniongyrchol i’r ystafell ddosbarth, i’r cartref neu i’r busnes. Mae faint bynnag o ysgolion/colegau, ceiswyr gwaith neu fusnesau yn gallu gwylio pob darllediad Learn Live rhyngweithiol, dim ond drwy fewngofnodi i’r sianel ar-lein. 


Mae Sianeli Newyddion Learn Live yn cysylltu ysgolion/colegau/prifysgolion yn barhaus â chyflogwyr ac maent yn gweithio'n llwyddiannus gyda chwmnïau sy’n cynnwys Network Rail, Balfour Beatty, yr Adran Gwaith a Phensiynau, Maes Awyr Gatwick, Brook a’r GIG ymysg eraill i ddarparu darllediadau ABGI ar draws y DU. 


Mae Rail Safe Friendly yn cael ei redeg gan Learn Live, a chafodd ei lansio ym mis Mawrth 2023 i ddarparu cynnwys diogelwch fideo Network Rail yn uniongyrchol i ysgolion drwy’r Sianel Learn Live. Eisoes, mae bron i 6,000 o ysgolion yn y DU yn rhan o’r rhaglen ac mae partneriaid yn y diwydiant o bob rhan o’r sector rheilffyrdd wedi’i noddi a dod yn bartneriaid. 


Mae tair lefel i’r Rhaglen Rail Safe Friendly i ysgolion eu cyflawni: 


  • Lefel Efydd - Bydd ysgol yn sicrhau bod yr holl ddisgyblion ac athrawon wedi gwylio’r darllediad diogelwch ar y rheilffyrdd naill ai’n fyw neu ar-alw drwy’r sianel Learn Live. Bydd angen i ysgolion gofrestru i gadarnhau eu presenoldeb a rhoi adborth ar ôl i’r myfyrwyr wylio’r darllediad. Bydd angen i ysgolion hefyd gofrestru ar wefan Diogelwch ar y Rheilffyrdd ‘Switched On’ i gael yr wybodaeth ddiweddaraf am ddiogelwch ar y rheilffyrdd gan Network Rail. 

  • Lefel Arian – Er mwyn cyrraedd y lefel Arian, bydd angen i ysgol fod wedi cwblhau’r lefel Efydd a chyfleu manylion y darllediadau diogelwch ar y rheilffyrdd i rieni ac i ofalwyr. Mae modd gwneud hyn drwy gylchlythyrau, gwasanaethau i rieni, gwefan yr ysgol, sianeli cyfryngau cymdeithasol neu fathau eraill o gyfathrebu mae’r ysgol yn eu defnyddio. Bydd gofyn i’r ysgol hyrwyddo’r wefan Diogelwch ar y Rheilffyrdd Switched-On Rail Safety ar eu sianeli cyfryngau cymdeithasol. 

  • Lefel Aur - I gyrraedd y lefel Aur, bydd angen i ysgol fod wedi cwblhau’r lefelau Efydd ac Arian a chreu fideo, podlediad neu boster diogelwch ar y rheilffyrdd gyda’u myfyrwyr i hyrwyddo diogelwch ar y rheilffyrdd yn eu hysgol ac ar sianeli cyfryngau cymdeithasol gan ddefnyddio briff a ddarperir gan Learn Live. 


2 views

Comentários


Os comentários foram desativados.
bottom of page