top of page
  • Writer's picturePartneriaeth Rheilffyrdd y Cambrian

Mynegi Diddordeb mewn bod yn Gynhaliwr Newydd i Bartneriaeth Rheilffyrdd Cymunedol y Cambrian

Updated: 3 days ago

Mae cyfle ar gael i fynegi diddordeb mewn bod yn sefydliad cynnal newydd i Bartneriaeth Rheilffyrdd Cymunedol y Cambrian, gan reoli cytundeb gyda Thrafnidiaeth Cymru ac Avanti West Coast.



Rydym yn Bartneriaeth Rheilffyrdd Cymunedol achrededig, a ddyfarnwyd gan y Rhwydwaith Rheilffyrdd Cymunedol, yr Adran Drafnidiaeth a Llywodraeth Cymru.  Mae’r Cadeirydd, Mr Neil Scott, yn eich gwahodd i droi at ein gwefan, The Cambrian Line | Railway sy’n amlygu’r gwaith a wnawn wrth gysylltu cymunedau gyda’u rheilffyrdd.

 

Mae Rheilffordd y Cambrian yn ymestyn dros 120 milltir o harddwch naturiol dihalog ac mae’n un o’r llwybrau mwyaf prydferth ym Mhrydain.  O’r Amwythig yn Swydd Amwythig, mae Prif Linell y Cambrian yn eich tywys dros y ffin i mewn i Gymru, trwy dir mynyddig garw, trefi marchnad hynod, cestyll a safleoedd Treftadaeth Byd, ar draws y wlad tuag at arfordir prydferth Arfordir Gorllewin Cymru.  Yma, mae’n cyfuno â Llinell Arfordir y Cambrian, gan gynnig golygfeydd bendigedig, llwybrau cerdded arfordirol a mannau i ymweld â nhw ar hyd llwybr arfordir Cymru.



Mae aelodau ein partneriaeth yn cynnwys Trafnidiaeth Cymru, Avanti West Coast, Network Rail, Heddlu Trafnidiaeth Prydain, Rheilffordd Ffestiniog ac Eryri, Rheilffordd Talyllyn, Parc Cenedlaethol Eryri, Cyngor Sir Ceredigion, Cyngor Gwynedd, cynrychiolwyr Mabwysiadu Gorsaf, cynrychiolwyr Twristiaeth a phartneriaid o’r trydydd sector.

 

Cyflawnir y cynllun gweithgarwch busnes gan yr holl aelodau, dan arweiniad Swyddog Rheilffordd Cymunedol.

 

Mae nodau ein cynllun fel a ganlyn:

  • cynnig llais i’r gymuned

  • hyrwyddo teithio cynaliadwy, iach a hygyrch

  • dwyn cymunedau ynghyd a chynorthwyo amrywiaeth a chynhwysiant

  • cynorthwyo datblygiad cymdeithasol ac economaidd

 

Mae’r Bartneriaeth Rheilffyrdd Cymunedol yn rhagweithiol iawn ac mae ganddi bresenoldeb cadarnhaol ar gyfryngau cymdeithasol.

 

Rydym yn dymuno gweithio gyda sefydliad sy’n rhagori yn y meysydd canlynol:

 

  • llywodraethu da

  • cyllid cynaliadwy a phrofiad llwyddiannus o ymgeisio am, sicrhau a rheoli cyllid allanol gan amrywiaeth o ffynonellau

  • meithrin cydnerthedd mewn mudiadau yn y sector gwirfoddol

  • rheoli cyllid

  • dylanwadu ar ac ymgysylltu â’r gymuned

 

Rydym yn croesawu ceisiadau yn arbennig gan sefydliadau o’r trydydd sector y mae ganddynt fuddiannau mewn prosiectau cymunedol sy’n seiliedig ar le, datblygu cymunedol ac ymgysylltu, ac sy’n meddu ar wybodaeth dda o’r ardal y mae CRP y Cambrian yn gweithredu ynddi.

 

Estynnir gwahoddiad i sefydliadau fynegi diddordeb trwy e-bost cyn 14 Mai 2024.

 

A fyddech gystal ag anfon e-bost at Neil Scott, Cadeirydd hello@thecambrianline.co.uk am wybodaeth bellach.

 

Gallwch gael gwybod mwy am Reilffyrdd Cymunedol yma What is community rail? - Community Rail Network

 

 

1 view

Comments


bottom of page