top of page
  • Writer's picturePartneriaeth Rheilffyrdd y Cambrian

Lansiad Lein y Cambrian Window Seater

Dewch i ddarganfod y stori y tu ôl i'r olygfa o'ch sedd ar y trên gydag Arweinlyfr Sain dwyieithog cyntaf erioed Lein y Cambrian.


Passenger looking out of the train window on the Cambrian Coast Line while listening to the Window Seater audio guide

Mae Lein y Cambrian yn un o'r teithiau trên mwyaf trawiadol, gyda golygfeydd godidog sy'n ei gwneud hi'n bleser gwylio'r hyn sy'n mynd heibio'r ffenestr.


Wrth deithio ar y trên, ydych chi erioed wedi meddwl tybed beth yw'r tirnod rydych yn ei weld trwy'r ffenestr, neu a hoffech chi ddysgu mwy am ddaearyddiaeth, hanes a diwylliant yr ardal rydych chi'n teithio drwyddi?


Erbyn hyn gall teithwyr ar Lein y Cambrian gysylltu â'r byd y tu allan i ffenestr y trên wrth iddynt deithio ar un o reilffyrdd prydferthaf Cymru gyda lansiad yr arweinlyfr sain dwyieithog cyntaf erioed Window Seater.


Mae Partneriaeth Rheilffyrdd y Cambrian wedi gweithio mewn partneriaeth â Window Seater i ddod â straeon sain dwyieithog, lleol, wedi'u geoleoli i deithwyr wrth iddynt deithio o Amwythig i Aberystwyth ac ar hyd yr arfordir i Bwllheli.


Mae'r ap Window Seater yn cysylltu teithwyr trên â'r byd y tu allan i'w ffenestr, yn rhad ac am ddim, gydag arweinlyfr sain seiliedig ar le sy'n manteisio ar straeon o'r cymunedau ar hyd y lein.


The view outside of your train window from the Cambrian Coast Line looking over the Mawddach Estuary and Barmouth.

Dywedodd Claire Williams, Swyddog Datblygu Partneriaeth Rheilffyrdd y Cambrian:

"Rydym ni'n gobeithio y bydd teithwyr yn cytuno y bydd defnyddio'r arweinlyfr yn gwella eu taith ar y trên mewn ffordd hwyliog a diddorol, gan gynnig profiad gwell a mwy sentimental iddyn nhw. Byddwch yn gallu gwrando ar yr arweinlyfr yn Gymraeg neu yn Saesneg a'r nod yw hyrwyddo diwylliant a hunaniaeth ein rhanbarth."

Dywedodd Marcus Allender, Cyfarwyddwr Datblygu Busnes Window Seater:

"Mae'r arweinlyfr sain Window Seater yn harneisio angerdd a gwybodaeth pobl leol i greu ap hawdd ei ddefnyddio sy'n cynnig modd i deithwyr ar Reilffyrdd y Cambrian gysylltu â'r bobl sy'n gwybod orau am yr hanesion ar hyd y lein – mynd o dan wyneb y golygfeydd enwocaf a datgelu trysorau cudd hanes, daearyddiaeth, diwylliant a mwy."

Mae'r prosiect wedi cael ei ariannu gan y Gronfa Datblygu Rheilffyrdd Cymunedol, Cronfa Her Trafnidiaeth Cymru a Phartneriaeth Rheilffyrdd y Cambrian.


Y gobaith yw y bydd cyflwyno'r arweinlyfr sain Window Seater yn annog pobl sy'n ymweld â'r ardal i ymgysylltu mwy â gweithgareddau lleol ar ôl iddynt adael y trên. Gallai hefyd gefnogi datblygiad cymdeithasol ac economaidd lleol wrth i ymwelwyr â'r ardal newid i ddulliau teithio gwyrddach.


Hyd yn oed os na allwch deithio ar Lein y Cambrian gallwch wrando ar y straeon a hel atgofion efallai am eich teithiau blaenorol. Lawrlwytho'r ap Window Seater.


Download on the App Store button.
Get it on Google Play button.





63 views
bottom of page