top of page
Search

Cronfa Gymunedol Partneriaeth Rheilffyrdd y Cambrian

  • Writer: Partneriaeth Rheilffyrdd y Cambrian
    Partneriaeth Rheilffyrdd y Cambrian
  • Aug 10
  • 3 min read

Mae Partneriaeth Rheilffyrdd y Cambrian yn agor Cronfa Gymunedol y Cambrian. Mae'n rhaglen grantiau bach sy'n cynnig gwobrau rhwng £200 a £1,000 i grwpiau lleol o fewn chwe milltir i orsaf reilffordd y Cambrian. Bydd yn cynnig cymorth ariannol ar gyfer prosiectau sy'n gwella mannau sy'n cael eu defnyddio gan y gymuned, yn hybu llesiant, yn cryfhau ymdeimlad o berthyn ac yn cyfrannu at ddatblygiad o fewn y gymuned.

 

CYMHWYSEDD

 

Rhaid i sefydliadau sy'n gwneud cais am y grant fodloni'r canlynol:

 

●     Rhaid bod yn sefydliad cymunedol, elusen, CIC neu’n grŵp sydd â chyfrif banc yn enw'r sefydliad sy'n gwneud y cais, gyda dau lofnodwr annibynnol

●     Wedi'u lleoli o fewn 6 milltir (10 km) i orsaf ar Reilffordd y Cambrian.  Nid oes angen i'r gweithgareddau gael eu cynnal yn yr orsaf ei hun.

●     Yn cael eu harwain gan gymunedau lleol neu’n dangos budd clir i gymunedau lleol.

●     Bod yn hygyrch ac yn gynhwysol i'r buddiolwyr targed.

●     Darparu budd clir a mesuradwy i'r gymuned leol neu i lesiant y gymuned.

●     Bod yn realistig, gyda llinell amser a chyllideb glir.

●     Sicrhau unrhyw ganiatâd gan dirfeddiannwr neu gytundebau partneriaeth sydd eu hangen cyn i'r gwaith ddechrau.

 

MEINI PRAWF

 

Rydym yn croesawu prosiectau dan arweiniad y gymuned sy'n dod â phobl ynghyd, yn gwella mannau lleol ac yn hybu llesiant y gymuned leol. Mae'r gronfa'n cefnogi ystod eang o weithgareddau, o erddi cymunedol a digwyddiadau pontio’r cenedlaethau, i welliannau o ran hygyrchedd a digwyddiadau undydd sy'n ymwneud â'r celfyddydau neu dreftadaeth. Dylai prosiectau ganolbwyntio ar y gymuned, fod yn gynhwysol, a darparu budd clir i’r ardal leol.  Bydd croeso hefyd i brosiectau sy'n gysylltiedig â rheilffyrdd.

 

Bwriad yr enghreifftiau canlynol yw sbarduno syniadau.  Rydym yn croesawu prosiectau eraill sy'n cynnig manteision i’r ardal leol, yn cefnogi llesiant ac yn cryfhau cysylltiadau o fewn y gymuned:

 

●     Prosiectau Gwyrdd - gerddi cymunedol, mannau gwyrdd neu brosiectau tyfu.

●     Prosiectau Gwella - pecyn casglu sbwriel a thrwsio meinciau, ymgyrchoedd glanhau cymunedol

●     Mynd i’r afael â Newid Hinsawdd / Cynaliadwyedd - pecyn cychwynnol compostio cymunedol, caffi trwsio dros dro, diwrnod cyfnewid cymunedol

●     Teithio’n lleol, cerdded a beicio - Adnewyddu arwyddion ffordd, map o deithiau cerdded lleol, cynllun cyfaill cerdded, sesiwn meithrin hyder ar feic

●     Ymdeimlad o berthyn - prosiectau gwau, byrddau stori am chwedlau lleol, cwilt cymunedol, pecyn croeso Quilt Station, (taflen, map, hanes lleol, lleoedd i ymweld â nhw)

●     Grwpiau Targed Pobl Ifanc / Hŷn  - sesiynau garddio pontio’r cenedlaethau, prosiect hel atgofion, a diwrnod crefft pontio’r cenedlaethau

●     Cymorth i Ganolfannau Cymunedol - pecyn caffi dros dro, pecyn cychwynnol ar hygyrchedd

●     Cynhwysiant a Hygyrchedd - mapiau cyffyrddadwy, neu fyrddau gwybodaeth/taflenni mewn print bras.

●     Celf, Cymuned neu Dreftadaeth - gosodiadau neu fyrddau dehongli tu mewn ac o amgylch gorsafoedd, artist am ddiwrnod, a blwch i fenthyg gwrthrychau treftadaeth

●     Hanes a Dehongli – Arddangosfeydd am hanes y rheilffyrdd, sgyrsiau am dreftadaeth gorsafoedd a byrddau dehongli lleol.

 

Ar gyfer prosiectau sy'n cael eu hariannu, rhaid gwario'r holl gyllid erbyn diwedd Chwefror 2027. Rhaid hefyd gwblhau a chyflwyno adroddiad diwedd prosiect erbyn dydd Llun 6 Ebrill 2027.

 

Os hoffech drafod eich syniadau prosiect, cysylltwch â:

Deb Justice - Swyddog Datblygu Partneriaeth Rheilffyrdd y Cambrian

deb.justice@pavo.org.uk         01597 822191

 

Os oes angen cymorth arnoch i lenwi eich ffurflen gais, cysylltwch â'ch Cyngor Gwirfoddol Sirol lleol:

Mantell Gwynedd               01286 672626    mantellgwynedd.com

CAVO                                    01570 423232  cavo.org.uk

Community Resource        01743 360641 community-resource.org.uk

PAVO                                     01597 822191 pavo.org.uk

 


 
 
 

Comments


Commenting on this post isn't available anymore. Contact the site owner for more info.
Transport for wales logo
cambrian-stacked-landscape_edited.png
PAVOlogo.png
CRP Accreditation Logo (no dates).jpg

HAWLFRAINT 2025 PARTNERIAETH RHEILFFORDD CAMBRIAN - CEDWIR POB HAWL.. |  PREIFATRWYDD

  • Facebook
  • Instagram
  • Linkedin
bottom of page