top of page
Search

Cyflwyno gosodiad celf ac arddangosfa newydd dan arweiniad y gymuned i Orsaf Cricieth yn ystod Wythnos Rheilffyrdd Cymunedol

  • Writer: Partneriaeth Rheilffyrdd y Cambrian
    Partneriaeth Rheilffyrdd y Cambrian
  • Jun 4
  • 3 min read

Cafodd gosodiad celf arbennig, sef trên stêm pren, ynghyd ag arddangosfa dreftadaeth newydd eu cyflwyno’n swyddogol i orsaf Cricieth ddydd Mawrth 4 Mehefin, wrth i grwpiau cymunedol lleol a phreswylwyr ddod ynghyd i ddathlu Wythnos Rheilffyrdd Cymunedol.

 

Trefnwyd y digwyddiad gan Bartneriaeth Rheilffyrdd y Cambrian i nodi cwblhau dau brosiect dan arweiniad y gymuned. Cynhaliwyd y prosiectau diolch i Gronfa Grant Cymunedol Rheilffordd 200 y Bartneriaeth. Lansiwyd y gronfa yn 2025 i gefnogi prosiectau sy’n nodi 200 mlwyddiant y rheilffordd fodern.

 

Derbyniwyd arian o Gronfa Grant Cymunedol Rheilffordd 200 diolch i gais llwyddiannus y Bartneriaeth i Gronfa Her Trafnidiaeth Cymru, a oedd yn cydnabod potensial y prosiect i gryfhau cysylltiadau’r gymuned â’r rheilffordd tra’n cefnogi amrywiaeth eang o brosiectau sy’n cael eu harwain yn lleol.

 

I nodi cwblhau’r ddau brosiect ar ran y dref, cynhaliwyd seremoni swyddogol o dan arweiniad Cadeirydd Cyngor Tref Cricieth, y Cynghorydd Delyth Lloyd. Dywedodd: “Hoffwn ddiolch i Bartneriaeth Rheilffyrdd y Cambrian, Trafnidiaeth Cymru, y Rhwydwaith Rheilffyrdd Cymunedol, Cricieth yn ei Blodau, Crefftwyr Cricieth a phawb arall sydd wedi cymryd rhan am eu gwaith i gyflawni’r prosiectau hyn.

 

“Yr hyn sy’n gwneud y prosiectau yma mor bwysig yw’r ysbryd cydweithredol y tu nôl iddynt. Maen nhw’n dod â gwirfoddolwyr, artistiaid, haneswyr, grwpiau cymunedol a phreswylwyr o bob oed ynghyd. Maen nhw’n adlewyrchu gwerthoedd ein cymuned yn berffaith; sef cynhwysiant, cysylltiad, creadigrwydd a balchder yn ein cymuned.”

 

Dywedodd Melanie Lawton, Swyddog Arweiniol Strategol Rheilffyrdd Cymunedol Trafnidiaeth Cymru: “Mae’n wych gweld y gymuned yn dod at ei gilydd i greu rhywbeth arbennig a chofiadwy iawn ar gyfer gorsaf Cricieth. Rydyn ni’n falch iawn bod ein Cronfa Her wedi gallu helpu Partneriaeth Rheilffyrdd y Cambrian i gefnogi’r prosiectau hyn o dan arweiniad y gymuned, a dathlu 200 mlwyddiant y rheilffordd fodern a chryfhau cysylltiadau lleol. Diolch i ymdrechion rhagorol pawb mae’r orsaf bellach yn lle llawer mwy croesawgar i deithwyr a phobl leol.”

 

Yr ychwanegiad cyntaf i blatfform yr orsaf yw’r trên stêm pren mawr, a gafodd ei adeiladu gan Men’s Shed Cricieth, a’i ddylunio a’i addurno gan Grefftwyr Cricieth, sydd wedi gorchuddio’r trên â phatrymau gwlân wedi’u gweu neu’u crosio â llaw. I gwblhau’r prosiect cydweithredol, aeth grŵp Cricieth yn ei Blodau ati i droi un o’r wagenni pren yn botyn plannu ac arddangos amrywiaeth o flodau parhaol.

 

Yn ogystal â’r trên stêm pren gall ymwelwyr weld arddangosfa hanesyddol newydd o’r enw ‘Potted Thyme Line’. Cafodd ei chreu gan Cricieth yn ei Blodau mewn cydweithrediad â disgyblion ysgol a grwpiau cymunedol lleol. Mae’r arddangosfa yn tynnu ar ffotograffau hanesyddol, toriadau o bapurau newydd a deunydd archifol i olrhain datblygiad y rheilffordd yn y dref rhwng 1865 ac 1869.


 

Dywedodd Pam Mayo o Crefftwyr Cricieth: "Fe wnaethon ni weithio gyda Men’s Shed Cricieth i greu ein dehongliad ni o injan stêm. Mae’n lliwgar ac yn wahanol. Mae grantiau fel hyn gan Bartneriaeth Rheilffyrdd y Cambrian yn sicrhau bod gan ein haelodau rywle i gyfarfod ddwywaith yr wythnos a phrosiect i’w gwblhau. Rydyn ni’n ddiolchgar i Deb am weithio gyda ni ar y prosiect yma."

 

Dywedodd Neil Scott, Cadeirydd Partneriaeth Rheilffyrdd y Cambrian: “Mae Cynllun Grant Cymunedol Rheilffordd 200 Partneriaeth Rheilffyrdd y Cambrian wedi helpu i gryfhau’r cysylltiad rhwng ein cymunedau â’n rheilffordd ac rydyn ni wedi bod wrth ei bodd i weld creadigrwydd ein grwpiau cymunedol yng Nghricieth wrth ddathlu carreg filltir bwysig yn hanes y rheilffordd.”

 

Cafodd y prosiectau eu dadorchuddio fel rhan o Wythnos Rheilffyrdd Cymunedol, dathliad cenedlaethol o reilffyrdd cymunedol a gynhelir eleni rhwng 1 a 7 Mehefin ac sy’n rhoi sylw i rôl rheilffyrdd cymunedol wrth feithrin cynhwysiant a chryfhau cysylltiadau lleol ledled Prydain.

 
 
 

Comments


Commenting on this post isn't available anymore. Contact the site owner for more info.
Transport for wales logo
cambrian-stacked-landscape_edited.png
PAVOlogo.png
CRP Accreditation Logo (no dates).jpg

HAWLFRAINT 2025 PARTNERIAETH RHEILFFORDD CAMBRIAN - CEDWIR POB HAWL.. |  PREIFATRWYDD

  • Facebook
  • Instagram
  • Linkedin
bottom of page