Partneriaeth Rheilffyrdd y Cambrian yn adeiladu ar flwyddyn lwyddiannus wrth ailethol Cadeirydd ac Is-gadeirydd
- Partneriaeth Rheilffyrdd y Cambrian

- 3 days ago
- 2 min read

Mae Neil Scott a Graham Davis wedi cael eu hailethol yn unfrydol yn Gadeirydd ac Is-gadeirydd, yn y drefn honno, Partneriaeth Rheilffyrdd y Cambrian yn dilyn y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol.
Daw’r penderfyniad ar ôl blwyddyn o gynnydd sylweddol i’r Bartneriaeth wrth iddi gryfhau ei phresenoldeb yn y cymunedau a wasanaethir gan Lein y Cambrian. Yn ystod y 12 mis diwethaf, mae’r Bartneriaeth wedi ehangu ei maes ymgysylltu, wedi penodi Swyddog Rheilffordd Gymunedol newydd, wedi sicrhau nawdd ar gyfer prosiectau lleol i ddathlu Rheilffordd 200 ac wedi parhau i hybu trafnidiaeth gynaliadwy, diogelwch y rheilffyrdd a mynediad i’r rheilffyrdd ledled Canolbarth Cymru, Gwynedd a Sir Amwythig.
Mae Partneriaeth Rheilffyrdd y Cambrian yn cael ei chynnal gan Gymdeithas Sefydliadau Gwirfoddol Powys (PAVO) a’i hariannu’n bennaf gan Trafnidiaeth Cymru. Mae’r bartneriaeth yn gweithio gydag awdurdodau lleol, sefydliadau cymunedol, mabwysiadwyr gorsafoedd, partneriaid twristiaeth a gwirfoddolwyr i gysylltu cymunedau â’u rheilffordd ac annog mwy o ddefnydd o’r rheilffyrdd ym mhob rhan o’r rhanbarth.
Mae Adroddiad Effaith 2025-25 y bartneriaeth, a gyhoeddwyd yn ddiweddar, yn rhoi sylw i’r cynnydd a wnaed yn ystod y flwyddyn i feithrin perthnasoedd a chodi ymwybyddiaeth o’r bartneriaeth ar hyd y lein. Ymgysylltwyd â mwy na 40 o grwpiau a sefydliadau cymunedol, cyhoeddwyd dros 33 o flogiau cymunedol, ac mae 16 o sefydliadau wedi derbyn mwy na £7,400 rhyngddynt drwy Gronfa Grant Cymunedol Rheilffordd 200 i gefnogi prosiectau creadigol sy’n dathlu 200 mlynedd ers sefydlu’r rheilffordd fodern.
Dywedodd Neil Scott, Cadeirydd Partneriaeth Rheilffyrdd y Cambrian: "Rwy’n falch dros ben i gael fy ailethol gan ein partneriaid i wasanaethu fel Cadeirydd am ddwy flynedd arall a chael Graham yn Is-gadeirydd. Gyda’n gilydd, rydyn ni wedi bod yn dyst i gyfnod o newid sylweddol i’r Bartneriaeth wrth i ni ganolbwyntio ar ymgysylltu â'n cymunedau, darparu prosiectau fel ein Cronfa Grant Cymunedol Rheilffordd 200 a recriwtio Swyddog Datblygu Rheilffordd Gymunedol newydd yn 2025. Rydyn ni’n edrych ymlaen am ddwy flynedd arall o arwain a chefnogi’r Bartneriaeth a chyflawni prosiectau newydd er budd cymunedau a’r rheilffordd."
Dywedodd Deb Justice, Swyddog Datblygu Rheilffordd Gymunedol Partneriaeth Rheilffyrdd y Cambrian: “Rydyn ni wedi cael cyfleoedd gwerthfawr eleni i godi ein proffil ar hyd Lein y Cambrian, ac ymgysylltu’n uniongyrchol â’r cymunedau sy’n byw ac yn gweithio ar ei hyd. Mae hi wedi bod yn fraint cael cydweithio â grwpiau mor ymroddedig ac angerddol. Mae Cronfa Grant Cymunedol Rheilffordd 200 wedi ein galluogi i ddatblygu sawl prosiect rhagorol, sydd oll yn adlewyrchu’r creadigrwydd, ymrwymiad, a balchder sy’n nodweddu cymunedau ar hyd Rheilffyrdd y Cambrian.”
Dywedodd Melanie Lawton, Swyddog Arweiniol Strategol Rheilffyrdd Cymunedol: "Y cadeiryddion yw lleisiau blaenaf a strategol y Bartneriaeth Gymunedol a bydd Neil a Graham yn llywio’r weledigaeth ac yn gweithio gyda’i gilydd gyda Deb ac aelodau’r bartneriaeth i gyflawni eu cynllun gweithgareddau, parhau i sicrhau nawdd a helpu i gysylltu cymunedau â’u rheilffordd. Rwy’n edrych ymlaen i weithio gyda Neil a Graham unwaith yn rhagor yn ystod eu tymor llwyddiannus nesaf."





Comments