Neuadd Bentref Pantperthog yn cyflwyno Murlun Cymunedol i Orsaf Drenau Machynlleth


Prosiect grant £500 yn pontio’r cenedlaethau mewn cymuned i greu gwaith celf tretadaeth sy’n dathlu Rheilffyrdd y Cambrian.
Ar 15 Hydref, cyflwynodd Neuadd Bentref Pantperthog furlun collage sy’n pontio’r cenedlaethau i orsaf drenau Machynlleth, gan ddathlu treftadaeth y rheilffyrdd yn yr ardal diolch i brosiect grant celf cymunedol.
Cwblhawyd y gwaith celf diolch i grant o £500 gan Gronfa Grant Cymunedol Rheilffordd 200 Partneriaeth Rheilffyrdd y Cambrian, a ariannwyd gan Trafnidiaeth Cymru. Cafodd y murlun ei greu yn ystod y gaeaf 2025/2026, a daeth y fenter ag aelodau’r gymuned, defnyddwyr presennol y neuadd a chyn-ddefnyddwyr ynghyd i gydweithio dros fisoedd y gaeaf. Roedd y cyfranogwyr yn amrywio mewn oedran o blant pedair oed i bobl dros eu saith deg, ac roeddent yn cynrychioli wyth o grwpiau gwahanol sy'n defnyddio’r neuadd.
O dan arweiniad yr artist lleol Emma Worthington, cynhaliwyd tair sesiwn unigol: dau weithdy o grwpiau bach yn canolbwyntio ar y gwaith paratoi a gorffen, ac un gweithdy mawr lle bu’r cyfranwyr oedd yn pontio’r cenedlaethau yn adeiladu’r prif baneli.

Mae’r collage gorffenedig yn cynnwys darnau o gylchgronau a thaflenni hyrwyddo wedi’u rhwygo sydd wedi’u gosod mewn haenau ar ben llun mawr strwythurol. Mae stribedi hirsgwar sy’n cyfleu cledrau’r rheilffordd yn rhoi amlinelliad i’r cyfansoddiad, sy’n dangos tri locomotif hanesyddol a arferai weithio ar Lein y Cambrian wedi’u gosod yn erbyn map cartograffig cynnar o’r rheilffordd a’r dirwedd o’i hamgylch.
Dywedodd Tegwen Brickley, Cadeirydd Neuadd Bentref Pantperthog: “Roedden ni wrth ei bodd i dderbyn y grant ac fe wnaethon ni wir fwynhau gweithio gyda’r artist cymunedol Emma. Roedd yn gasgliad arbennig o bobl o bob cenhedlaeth a grwpiau gwahanol sydd oll y caru’r neuadd bentref ac yn cael budd ohoni fel lleoliad.”
Dywedodd yr artist Emma Worthington: “Dyma enghraifft o gelf gymunedol ar ei gorau; pobl oedd ddim yn adnabod ei gilydd yn dda iawn yn dod ynghyd, i greu, sgwrsio a rhannu. Mae’n bosibl na fydden nhw wedi cyfarfod ei gilydd oni bai am y prosiect yma, ac rydyn ni’n ddiolchgar am y cyfle.”
Dywedodd Deb Justice, Swyddog Datblygu Rheilffyrdd Cymunedol Partneriaeth Rheilffyrdd y Cambrian:“Roedd hwn y brosiect Rheilffordd 200 gwych, ac rydyn ni mor falch ei fod wedi’i osod yng ngorsaf drenau Machynlleth lle gall pawb ei weld. Diolch i Tegwen ac Emma a phawb wnaeth gymryd rhan a chreu darn o gelf mor hyfryd.”
Dywedodd Melanie Lawton, Arweinydd Strategaeth Rheiffyrdd Cymunedol Trafnidiaeth Cymru: “Mae gorsafoedd wrth galon y cymunedau maen nhw’n eu gwasanaethu, felly mae’n wych gweld hanes lleol yn dod yn fyw fel hyn ym Machynlleth. Roedden ni’n awyddus i Gronfa Grant Cymunedol Rheilffordd 200 helpu grwpiau i ddathlu treftadaeth y rheilffyrdd yn eu ffyrdd eu hunain, ac mae’r murlun hwn yn rhoi rhywbeth arbennig iawn i deithwyr a phobl leol ei fwynhau.”
Cafodd y murlun ei gynnig yn swyddogol i’w arddangos yng ngorsaf drenau Machynlleth yn ystod cyfarfod rhwng cyfranogwyr y prosiect, cynrychiolwyr y gymuned a phartneriaid y diwydiant rheilffyrdd.





Comments